Ailddysgu

Tuesday, 19 November 2013

Cornchwiglod ac arbrofi gyda'r camera newydd

Roedd bore 'ma yn hyfryd - mae hi wedi troi'n oer, ond roedd yr haul allan a'r lliwiau yn drawiadol.  Ar dyddiau fel heddiw, mae beicio i'r gwaith yn fraint - a dwi'n cyrraedd yn teimlo mor dda.  Dwi'n mynd heibio Llyn "Willen", felly mi wnes i arbrofio dipyn gyda'r camera.

Dwi'n hoff iawn o weld gornchwiglod o gwmpas (ac am enw hyfryd!).  Mae nhw'n atgoffa fi o Gymru, er does dim llawer ohonnyn nhw yn yr ardal yma. Ac i ddweud y gwir dydyn nhw dim yn gwneud yn dda iawn yn gyffredinol, mae'r niferion wedi bod yn gostwng am flynyddoedd.  Beth bynnag, ar ddechrau'r Hydref mae nhw'n symud o'r caeau i ymyl y Llyn, a dyma lluniau ohonyn nhw.


Ac un o lliwiau'r Hydref


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home