Pupurau o'r tŷ gwydr
Dyma be nes i gasglu heddiw!
Dwi wedi bod yn aros, yn gobeithio y basai'r pupurau yn aeddfedu dipyn mwy ac yn troi'n goch. Ond rwan dan ni ym mis Rhagfyr, dwi ddim yn meddwl bod lawer o obaith. Cafodd y hadau eu blannu braidd yn hwyr. Os dach chi'n cofio roedd y Gwanwyn yn hwyr iawn yn dod eleni, a doeddwn i ddim eisiau rho't hadau i gewn tra bod y tymheredd yn y tŷ gwydr mor isel. Hyd yn oed mewn blwyddyn da, mae pupurau yn cymryd amser i aeddfedu a troi'n goch - er eich bod yn medru eu defnyddio yn wyrdd. Diolch byth - ar ol y Gwanwyn oer, mi gawsnon ni haf poeth a tymereddau da yn y tŷ gwydr am dipyn o amwer, a mi roedd rhai o'r pupurau wedi gwneud yn dda iawn, fel yr rhain nes i gasglu bythefnos yn ol.
Felly does dim i gwyno amdano - one mae hi'n well casglu bron y gwbl rwan, rhag ofn bydd tywydd oer yn dod ac yn eu difetha nhw. Yn y ty gwydr mae nhw'n medru goroesi dipyn o oerni (yn enwedig gyda 'fleece' drostyn nhw - ond dim pam mae'r tymheredd yn isel iawn)
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home