Ailddysgu

Sunday 17 November 2013

Am wahaniaeth yn y cefn gwlad a’r tywydd


Wythnos yn ôl, ar ddydd Sul, r’oedd holl liwiau’r Hydref yn sgleinio yn yr haul, a r’oedd cerdded gyda’r ci yn fuan bore Sul yn bleser pur.  



Ond roeddwn wedi trefnu mynd allan i ginio (dathliad o prosiect gwaith yn gorffen), felly er bod gyrru ar draws wlad i bentre bach yn yml Banbury yn braf, r’on yn ysu bod allan yn y cefn gwlad neu yn yr ardd....

Penwythnos yma, roeddwn wedi trefnu mynd ar dro gyda ffrind dwi ddim yn gweld digon aml.  Felly i ffwrdd a ni, ond o, am bnawn llwyd ddiflas.  Serch hynny, mi gawson daith cerdded hyfryd a mi welais y sgwarnog cyntaf eleni.  Ia, dwi ddim wedi gweld un trwy’r holl fisoedd.  O be dwi’n dallt ( a wedi gweld) mae nhw’n gwneud yn iawn o gwmpas fan hyn.  Roedd y tywydd  r’un fath heddiw: cymylog a llwyd.  Dim y diwrnod gorau i ymarfer ac arbrofi gyda fy nghamera newydd.  Y gobaith ydy bydd y camera yma yn well ar gyfer cymryd lluniau o fywyd gwyllt.  Ond gyda’r golau gwael, yn lle hynny, mi wnes i arbrofi dipyn gyda cymryd lluniau o’r aeron a’r blodau hwyr yn yr ardd.



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home