Mae’n amlwg fy mod i ddim yn llwyddo llawer gyda’r blog ar y funud. Serch hynny, dwi wedi bod yn gwneud rhywfaint o ddarllen. Mi wnes i ailddarllen Wythnos yng Nghymry Fydd, gan Islwyn Ffowc Elis (IFE) - llyfr roedden am drafod yny Clwb Darllen. Mi ges i ddipyn o hwyl gyda’r llyfr: fel y tro gyntaf, roedd y stori yn cydio - yn enwedig wrth gofio bod y nofel yma wedi ei chyhoeddi yn ol yn y pumedgau: yn sicr mae IFE yn storïwr gwych. Yr unig rhan nes i DDIM fwynhau oedd hanes y capeli ac eglwysi Cymru y dyfodol. Does gen i ddim diddordeb mewn crefydd - a roeddwn wedi colli diddordeb yn fuan yn y rhan yma. Ond yn y bôn, mae’r nofel yn ddiddorol, ac yn dangos y diddordebau eang a oedd gan yr awdur.
Roedden yn trafod y nofel yn y Clwb Darllen yn LLundain - a roedd rhai ohonon ni wedi gwneud rhestr o’r pethau a wnaeth IFE rhagweld yn llwyddianus: e.e. y gweleffôn; y loteri, ac y senedd. O, a’r ceir yn gyrru eu hunain (bron wedi digwydd!). Ond wrth gwrs roedd llawer o bethau ddim yn iawn: y darlun o Gymru llwyddianus lle mae pobl yn gweithio ac yn byw yn lleol (yn yr Iwtopia); a gyda ffatrïoedd enfawr, a coedwigion enfawr yn y “dystopia“. Ond mi fyddai wedi bod yn anodd iawn yn y pumdegau rhagweld na fydd llawer o gynhyrchu o gwbl yn digwydd y dyddiau yma.
Roedd rhai ohonon ni yn meddwl bod yr ail Gymru, y “dystopia“ yn fwy ddiddorol, gyda’r iwtopia braidd yn ddelfrydol - a chymeriad Mair, yn enwedig, dim cweit yn taro deuddeg. Ac wrth feddwl, doedd o ddim yn hawdd meddwl o lyfrau eraill Cymraeg sydd yn debyg. Diffyg o ffuglen wyddonol Gymraeg efallai?
Fel ddwedais o’r blaen - ro’n yn falch gweld awgrymiadau Bethan Gwanas o lyfrau 2013. Un wnes i archeb ydy Twll Bach Y Clo a mi wnes i orffen darllen o yn ddiweddar. Anodd dweud llawer heb dwud gormod - ond mae o’n lyfr dda - werth darllen yn sicr (yn fy nhyb i!)
Labels: Ffuglen Wyddonol, Wythnos yng Nghymru Fydd. Twll Bach y Clo
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home