Ailddysgu

Sunday 16 February 2014

Garddio, o'r diwedd

O’r diwedd, dipyn o haul!  Cyfle i fynd i’r ardd a tocio’r mafon.  Dwi ddim yn dallt pan mae’r llyfrau i gyd yn dweud bod rhaid tocio mafon hydref ym mis Chwefror.  Pam ddim ar ôl iddyn nhw orffen ffrwytho ar ddiwedd y flwyddyn?  Beth bynnag, gyda’r tywydd mwyn (er gwaetha’r glaw), roedd tyfiant yn dechrau dangos, felly hen bryd i dorri nhw i lawr.  Ond dim llawer o gyfle, gyda’r glaw.  Ond heddiw, ar ôl diwrnod a ddechreuodd yn ddigon stormus ddoe, roedd yr haul yn gwenu: 

felly ar ôl mynd a’r ci am dro dyna ddechrau ar y mafon.  Dyma sut oedden nhw cyn dechrau:

A dyma sut oedden nhw ar ol tocio am dipyn o amser, a hefyd tynnu rhai allan, oherwydd mae ’na ffrwythau eraill yn y gwely hefyd, fel gwsberen, cyrans du a chyrans coch - a r’oedd popeth ar draws ei gilydd, rywsut.



Dwi ddim wedi gwneud lawer o arddio o gwbl eto eleni, ond yn y tŷ gwydr mi wnes i wasgaru hadau letys penwythnos diwethaf, ond dwi braidd yn sicr bod y llygod wedi bod atynt - felly heddiw, mae’r hadau yn mynd i’r lofft a mi wnai chwilio am y trap llygod.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home