Siopau llyfrau anibynnol a Gŵyl Ddewi Arall
Mae’r
nifer o siopau lyfrau wedi gostwng fel bod na llai na fil o siopau ar ôl ym
Mhrydain Fawr. Yn ôl y Guardian dydd Sadwrn diwethaf. Mae’n
amlwg ei fod yn anodd i’r siopau bach yma: The
balance of risk in bookselling has changed for good and now sits
disproportionately with the bookseller," said Tim Godfray, chief executive
of the Booksellers Association. "Bookshops are important community and
cultural hubs, which also provide an important educational resource for all.
Sadly, the overall picture in terms of the number of independent booksellers in
the UK is still one of contraction." Felly os ydy’r siop
llyfrau mor bwysig i’r cymuned lleol, be fedran ni wneud? Un weithred, yn
amlwg, ydy cefnogi, siopau sydd gennyn ni.
Fel mae fy ddarllenwyr
fyddlon yn gwybod (os oes rhai!), dwi’n meddwl bod Palas Print yn
gwneud gwaith ardderchog. Dwi’n trio archeb y llyfrau dwi’n prynu o’r
siop yma - a fel arfer mae nhwn’n dod cyn gyflym ac archebau Amazon. Ond
hefyd, mae cyngor ar gael. Mis diwethaf roedd fy ffrind yn dathlu ei
phenblwydd - wedi cyrraedd 60. Mae hi’n dysgu Cymraeg, felly yn
naturiol meddyliais prynu rhywbeth Cymraeg - neu ynglyn a Chymru.
Cefais sgwrs gydag Eirian, perchenog Palas Print, ar y ffôn, a derbyniais
ei chyngor hi - ac yn fuan roedd y parsel wedi dod. A mae fy ffrind
wrth ei bodd.
Un peth mae Palas
Print yn
gwneud (neu un peth mae perchynog Palas Print yn gwneud) ydy trefnu
digwyddiadau fel y Gŵyl Arall – sy’n digwydd bob blwyddyn bellach, yn yr
haf. Eleni dwi’n mynd i’r Gŵyl Ddewi Arall, dros y penwythnos. Dwi’n
edrych ymlaen yn arw a dyma’r rhaglen .
2 Comments:
Byswn i'n enwebu Siop Lyfrau'r Hen Bost yn Stiniog; arbenigo mewn llyfrau ail-law ond dewis da o lyfrau a cherddoriaeth newydd hefyd. Mae hi'n siop werthfawr yn Stryd Fawr y Blaenau.
Helo Wilias
Erioed wedi bod yn y Siop yna ond pan dwi'n agos i Stiniog tro nesaf mi wna i alw i fewn.
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home