Ailddysgu

Sunday, 29 June 2014

Nantgwrtheyrn: Tre'r Ceiri a'r Cwrs

Dwn i’m lle mae’r amser wedi mynd ers dod yn ol o’r Nant ychydig dros wythnos yn  ôl, ond wrth gwrs mae llawer o amser yn mynd gyda’r ardd - a digon i wneud ar ol bod i ffwrdd am wythnos.  A mae gwaith yn brysur hefyd.  Beth bynnag, dwi eisiau cofnodi dipyn am y cwrs ei hun ac am Tre'r Ceiri.

Ond tair diwrnod parodd y cwrs, ond mi aethon ni i’r Nant ar y dydd Sul a felly cawsom dydd Llun yn rhydd i wneud beth mynon - a wnaethon ni ddim adael tan bore Gwener.  Gan fod yr haul allan a’r tywydd mor braf, cyfle i gerdded i Dre’r Ceiri ar y ddydd Llun felly.  Rhaid dweud, wyddwn i ddim bod y lle mor agos.  O’r maes parcio ar ben y bryn (ryw 25 minud mwy o’r Nant ei hun), mae’r taith cerdded yn cymryd llai nag awr i gyrraedd Tre’r Ceiri (gan cynnwys colli’r llwybr unwaith - a dim yn mynd yn gyflym).  Dach chi’n gwybod sut dach chi’n cael llun yn eich pen am rywun neu rywle, a dydi’r realiti ddim byd tebyg?  Dwn i ddim yn union be r’on i’n disgwyl, ond dim be welson ni.  Mae’r olion yn wych, gyda’r waliau mewn llefydd reit uchel - tair troed, efallai?  A mae'r tai yn agos iawn at eu gilydd - felly cymuned glos efallai, ond efalla mai ond aros yna rhan o'r amser oedden nhw.  Beth bynnag, dyma dau o’r lluniauyn dangos olion dau o'r tai:



A mae na tyllau bach wedi cael eu gnweud mewn rhai o'r cerrig, fel yn y llun nesaf:


A dyma mynedfa:

A’r golygfeydd! Gan fod ni yna yng nghanol y dydd, doedd y golau dim yn dda iawn am tynnu lluniau - ond mi gerddais i fynny eto ar y nos Fawrth, yn  dechrau tua hanner awr wedi saith, a felly roedd y gloau llawer mwy gynnes.  Nes i ddim fynd reit i’r copa tro yma, ond dyma rhai o’r lluniau o’r nos Fawrth.  (Felly dim o'r copa ond nes i lawr):

Mae’n anodd meddwl o le fwy hyfryd i eistedd, gyda’r haul yn dechrau mynd i lawr.

A roedd y cwrs ei hun yn ardderchog hefyd.  Mi wnaethon dipyn am Gymraeg Ddoe a Heddiw, mewn tri rhan - diddorol iawn,    cryn dipyn am farddoniaeth, a trwy hyn, mi ges i fy nghyflwyno i feirdd gyfoes nad o’n i’n gwybod amdanyn nhw: digon o drafod: hoff caneuon a llyfrau. Hefyd cawsom ymweliad gan Siân Northey (awdures Yn y Tŷ Hwn a llawer o lyfrau eraill), a trafodiaeth difyr am ei llyfrau hi a llawer o lyfrau eraill, a gan Menna Medi yn siarad am ei barddoniaeth.  Felly gwibiodd y dyddiau heibio.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home