Ailddysgu

Friday 4 July 2014

Y taith i'r gwaith

O’r diwedd, mae’r glaw yn disgyn a dwi’n falch.  Ar ôl penwythnos stormus, gyda glaw trwm a wnaeth ddim fynd i’r pridd, cawsom wythnos sych, haelog a poeth.  yr wythnos diwethaf.  Mi roedd hwn yn ardderchog am beicio i’r gwaith, ond dim mor dda i’r ardd, ac erbyn nos Iau roedd rhaid dyfrio’n ddrwyadl.  Felly dwi’n croeso’r glaw heddiw, dydd Sadwrn.  Cael aros yn fy ngwely yn sgwennu hwn a, mewn munud, yn gwrando ar Galwad Cynnar.  Da, te? (Ond gan fy mod yn gwrando ar iRadio mae'r rhaglen yn mynd a dod wiethiau)

Dwi wedi tynnu ambell lun wrth teithio i’r gwaith.  Fel fy mod wedi dweud o’r blaen, mae’r taith (ar beic) yn bleser am y ran fwyaf.  Dwi’n mynd heibio ddwy lyn, “Tongwell“ a “Willen“ a mae o’n werth gweld pa adar sydd ar y ddwy.  Wedyn, ar hyd yr afon.  Felly dwi’n edrych allan i weld beth sydd o’r gwmpas.  Yr wythnos yma, sylwais bod mor wenoliaid gyffredin yn eistedd yn yml un llyn, a tynnais ambell llun.  Dyma un ohonnyn nhw:


A dyma rhai o'r adar bach sydd o gwmpas:


Elyrch bach a


cywion hwyaden gyda'u mam

A dyma un o’r blanhigion sydd i’w gael ar hyd yr afon.


Dydy o ddim yn gyntefig, a mae o wedi dod i fod yn broblem,  “Himalayan balsam“ yn Saesneg: oes enw Cymraeg? Yn bendant mae nhw'n ffynnu ger yr afon.

2 Comments:

At 7 July 2014 at 03:34 , Blogger Wilias said...

Jac y neidiwr -oherwydd natur ffrwydrol yr hadau!
Ti'n cael hwyl garw ar y lluniau adar Ann. Y daith feics yn swnio'n hwylus iawn. Yma yn Stiniog mae pob taith unai yn dechrau, neu'n gorffen efo allt serth!

 
At 13 July 2014 at 07:07 , Blogger Ann Jones said...

Ia, ti'n iawn. Gan fod fy mhenglinniau ddim mor dda y dyddiau yma, dwi ddim yn meddwl y baswn i'n medru beicio yn Stiniog! Ond dwi yn colli brynniau a'r mynyddoedd - mae popeth mor wastad yma.

A diolch am y sylwadau am y lluniau. Dwi mor hoff o fywyd gwyllt, ac adar yn enwedig, ond yn bendant dydy o ddim yn hawdd tynny'r lluniau. Gyda'r mor wennol, roeddwn yn lwcus iawn ei bod yn llonydd a dim rhy bell i ffwrdd!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home