Penwythnos
yn yr ardd ar ol dod adre o arfordir Sir
Benfro. A mor lwcus gyda'r tywydd! Dyma’r trydydd tro i’r grŵp cerdded ar lwybr yr arfordir. Tro yma, yn cychwyn yn ymyl
Solfa, lle wnaethon ni orffen tro diwethaf. Doeddwn i ddim yn medru
cerdded bob dydd o le i le fel arfer, ond beth bynnag, ges i hwyl, ac erbyn
dydd Iau, dydd pedwar, llwyddais i gerdded 7 milltir, mewn tameidiau bach. Ond gan na fod i'n medru cerdded gymaint, treuliais amser yn crwydro o gwmpas gyda'r camera a'r spindrych.
Felly dyma ychydig o luniau o adar yr arfordir a
gerllaw. Yn Nhŷ Ddewi, y brain biai hi: ydfrain yn nythu yn agos i lle
roedden yn aros (ond dim rhy agos…); sawl jac-y-dô o gwmpas y dre, ac yn nythu
yn Llys yr Esgob Tyddewi. Ar yr arfordir ei hun, cigfrain, a’r brain
goesgoch ar ynys Ddewi. Hyfryd, hefyd, oedd gweld adar bach and ydym yn
gweld yn fama, fel y llinos, a’r ’crec penddu’r eithin' (yn ol
Geiriadur Prifysgol Bangor - ond mi wn bod na o leia un enw arall sy’n
well, ond fedra i ddim cofio honno ar y funud). Felly dyma ychydig o
luniau:
y llinos...
Clegar yr eithin, dwi'n meddwl, rŵan ydy'r enw arall…?
Y cigfran
a roedd y rhain ym mhobman!
2 Comments:
Lluniau gwych eto. Wedi trio tynnu lluniau hebog tramor ganol yr wythnos ond wedi methu'n llwyr!
Ond wedi gweld dy sylw heddiw! Dwi'n hapus gyda'r llun o'r clegar yr eithin (erioed wedi llwyddo o'r blaen) a'r jac-y-dos ond swn i'n meddwl ei fod yn waith annodd tynnu llun o'r hebog tramor!
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home