Ailddysgu

Tuesday 28 April 2015

Yn yr ardd

Dwi wedi llwyddo i wneud dipyn yn yr ardd yn ddiweddar, ond doeddwn i ddim yn disgwyl gorfod dyfrio ym mis Ebrill! Mae o wedi bod yn fis sych ofnadwy yn yr ardal yma,  a dwi wedi gorfod rhoi dŵr i’r mefys a oedd wedi cael ei twtio a chwyno; y sialóts, y nionod, a’r coeden newydd (morwydden - mulberry). Mae coed newydd yn fregus yn y flynyddoedd gyntaf.  Hyd yn oed ar ôl ychydig o flynyddoedd mae’n bosib colli coed mewn tymor sych.  Dwi’n hoff iawn o’r bedwen ond bu farw’r un yn yr ardd ar ol cyfnod sych, a felly dwi’n ofalus iawn gyda’r fedwen newydd, sydd bellach yn dair oed.

Mae blodau y coed ffrwythau wedi bod yn arbenning eleni - a gobeithio bydd y ffrwythau’n dda hefyd.  Dyma rhai luniau o’r blodau - rhai yn dechrau a rhai yn gorffen……


Dyma'r afal Bramley yn decrau blodeuo


A dyma flodau sydd yn gorffen - ar yr eirin dwi'n meddwl


A dyma gellyg bach bach yn dechrau ffurddio


Felly edrych ymlaen i'r ffrwythau

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home