Treuliais rhan o fore Sul yn y gwarchodfa lleol. A dyna lle glywais y gog, o’r diwedd. Felly am y tro, mae o leiau un gog o gwmpas yr ardal, a ro’n i, beth bynnag, yn falch iawn i’w glywed o.
Hefyd gwelsom titw’r wern, a dyma llun o’r cuddfan.
Mae’r rhain yn debyg iawn I ditw’r helyg – a dwi ddim yn medru dweud y gwahaniaeth, ond mae’r arbennigwyr yn y gwarchodfa yn dweud wrthaf bod na ddim ditw’r helyg wedi eu gweld am dipyn, felly dwi bron yn siwr mae titw’r wern ydy o, ond falle mi wnai roi y llun i fewn i iSpot I weld. A mae'r aderyn yn llawer fwy lliwgar a hardd na mae o'n edrych yn y llun.
Ag o cuddfan arall, sydd yn edrych ar draws un o’r llynnoedd, dyma lluniau o greyr las (efallai rhai ifanc?) ag o gwyach fawr gopog – sydd yn ymddwyn yn ymosodol, yn isel iawn yn y dwr.
R’oedd telor y cyrs i’w weld fama hefyd (ond wnes i ddim lwyddo i gael llun). Mae’r gog yn defnyddio nyth y delor yma yn aml. Tybed os dyma lle bydd wyau y gog y clywais i yn cael eu ddodwy?. Ac i orffen dyma llun hyfryd o’r delor yma gan Dawn – dwi’n dilyn ei flog hi a mae hi’n tynnu lluniau ardderchog
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home