Yn yr ardd
Dwi wedi bod yn gweithio'n galed yn yr ardd yn ddiweddar - ond serch hynny, mae gymaint o waith ar ôl i'w gwneud. Heno, roedd yr arolygion tywydd yn bygwth barrug - felly, rhag ofn, dwi wedi trio gorchuddio un rhes o'r tatws - y tatws newydd, gyda fflîs. Does dim digon i orchuddio nhw i gyd!
Mae’r borderi blodau yn edrych yn dda ar y funud, ond y llysiau sydd yn cael y rhan fwyaf o’r sylw: mae planhigion bach spigoglys a betys wedi cael eu trawsplannu; mae ffa wedi mynd i mewn a hadau moron a pannas a popeth wedi cael ei dyfrio: mae’r gwynt yn sychu’r ardd yn gyflym iawn. Dyma ychydig o luniau o'r blodau:
Mae 'na aelod newydd yn y perllan gerila: morwydden ifanc. Anrheg oedd hon (penblwydd arbennig llynedd). Ond dwi ddim yn meddwl bod fy ffrind wedi sylwi pa fawr ydy’r coeden yma yn tyfu - ond mi ddylai fod yn bosib cadw hi mewn dipyn o drefn gan ei bod wedi ei phlannu wrth y wal. Beth bynnag, bydd dipyn o amser cyn i ffrwythau dod!
A ddoe, arbrawf newydd. Daeth ffrind drosodd i arddio gyda fi - a wythnos nesa, dwi am fynd i wneud yr un peth yn ei gardd hi. Y syniad ydy gwneud y garddio yn rywbeth mwy gymdasol - a cael llygaid newydd i weld be ydy be. Clirio gwely’r perlysiau oedd y gorchwyl ddoe: roedd y mintus wedi dianc a cymryd drosodd, a roedd y gwely hefyd yn llawn o glas y gors (? forget me not). Mae hadau y phlanhigion yma yn gwasgaru a mae nhw ym mhob man - ond mae nhw’n hardd ac yn hawdd i dynnu allan. Dyma'r gwely ar ol i ni orffen - digon o le i gael ychydig o berlysiau newydd.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home