Ailddysgu

Monday 20 April 2015

Y Gardd a’r Gegin: riwbob a sbigoglys

Yn aml, os dwi’n coginio, mae be sydd ar y plât yn cael ei yrru gan be sydd yn yr ardd – yn enwedig os oes digonedd o rywbeth, neu’r cnwd gyntaf….
Yr amser yma o’r flwyddyn, does na ddim gymaint yn ein gardd nac yn y tŷ gwydr.  Ar ol blwyddyn ddrwg i’r cenin llynedd, be sydd ar gael ar y funud ydy:
dail ar gyfed salad – o’r tŷ gwydr;
sbigoglys (yn dod I’r diwedd) spinach beet ydy o i fod yn gywir
a riwbob

Mi ges i fy ysbrydoli gan flog Paul - Ar Asgwrn y Graig (wastad yn werth ddarllen) – a’r rhaglen “Cegin Bryn” y cymerodd rhan ynddo fo.  Doeddwn I ddim wedi sylwyddoli ei fod o’n bosib gwneud gymaint gyda riwbob!  Mae’n hawdd I dyfu.  Dwi ond yn rhoi dipyn o gompost neu tail arno fo o bryd I’w gilydd a dim yn ei torri ar ol canol yr haf a mae o fel y boi.  Efalla wnai drio’r jîn bellach ymlaen – mi roedd o’i weld yn hawdd!  Ond ar y funud dwi’n ol i ryseit hawdd a blasus o hen lyfr Rose Elliott (Vegetarian Meals in Minutes).  Dim llawer o gynhwysion ond yn hyfryd gyda hufen neu iogwrt:



A mae’r sbigoglys yn dod I ben, a felly dwi wedi bod yn casglu’r dail ac y trio meddwl be i’w gwneud efo nhw.  Neithiwr mi es yn ol i’r hen lyfr Cranks a gwneud tatws wedi pobi gyda caws, hufen a sbigoglys – mae o’n cymryd dipyn fwy o amser na fel arfer pan dach chi’n pobi tatws, achos mae rhaid tynnu’r taten allan o’r croen  a cymysgu o gyda’r caws, sbigoglys a hufen, cyn rhoi yn ol i’r popty. 



A gan for betys ar gael ar y farchnad a coriander yn y tŷ gwydr mi wnes salad betys gyda salsa coriander a tomato hefyd.

1 Comments:

At 28 April 2015 at 13:11 , Blogger Wilias said...

Mae'r gin rhiwbob yn hyfryd; fydd o ddim yn para'n hir! Y tatws sbigoglys, a'r salad betys yn edrych yn dda uchod. Dwi'n ffan mawr o Cranks: mae'r llyfr clawr meddal o 1985 yn dal i hawlio lle ar ein silff efo'r llyfrau newydd glossy gan Bryn Wms a Hugh Fearnley Wotsit...homity pies am byth!!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home