Ailddysgu

Sunday 24 January 2016

Llyfrau

Dwi ddim wedi bod yn darllen gymaint o lyfrau Gymraeg yn ddiweddar.  Weithiau mae pentwr o lyfrau wrth y gwely neu ar y bwrdd yn aros amdanaf. Ond dim dyna ydy'r sefylliad ar y funud.  Ar gyfer y cyfnod dros y Nadolig, archebais ddwy nofel oddiwrth Palas Print (os dach chi wedi darllen fy mlog o'r blaen mi fyddach yn gwybod pa mor dda ydy'r siop yma, a mae nhw'n danfon llyfrau trwy'r post, yn gyflym - felly does dim angen rhoi pres i Amazon): I Botany Bay, gan Bethan Gwanas a 'A Oes Heddwas' gan Myfanwy Alexander, enw newydd i fi.  Mae rhaid gwneud yn siwr bod lyfrau ar gael i ddarllen dros y 'Dolig, ac er fy mod wedi gofyn am lyfrau Saesneg, roedd rhaid cael llyfrau Cymraeg hefyd.  Beth bynnag, roedd I Botany Bay yn diddorol ac yn afaelgar.  Byddan ni'n trafod y llyfr yn y Clwb Darllen Llundain ar y 1af o Chwefror.  Dwi wastad yn mwynhaw llyfrau Bethan Gwanas, a maent yn ymrywio, ond hwn ydy'r nofel hanesol gyntaf, wedi ei seilio ar hanes go iawn.  Ond dwi ddim yn siwr os mai 'mwynhau' ydy'r gair mwyaf addas am yr holl brofiad, oherwydd mae o'n stori trist - a dach chi'n gwybod, mwy neu lai (fel mae'r Saeson yn dweud, the clue is in the title) be sydd am ddigwydd.  Ond mae on yn gnweud i chi feddwl am sut r'oedd pobl yn cael eu drin yn yr adeg yna, a mor hawdd 'r oedd i rywyn dlawd gwneud drosedd eitha bach, gyda canlyniad mawr.  Mae'n amlwg bod ymchwil drwydadl wedi mynd i'r gwaith, a fel bob llyfr Gethan Gwanas, mae o'n tynnu chi i fewn.


A dwi newydd orffen 'A Oes Heddwas'.  Cymerodd dipyn fwy o amser i dod i arfer gyda'r llyfr yma, ond unwaith r'on i heibio'r pennod gyntaf r'oedd yn anodd rhoi'r llyfr i lawr.  Er ei fod yn dweud stori am yr Arolygydd Daf Dafis yn ystod yr Eisteddfod ym Meifod, dim llyfr ditectif arferol ydy o.  Mae sawl trosedd yn digwydd (ac yn cael eu datrys) yn ystod y llyfr, ond ymysg y troseddau, a'r ymchwiliadau, mae llawer i'w ddweud hefyd am fywyd teuluol a'r gwerthoedd sy'n cyfri - a mae'n symud yn garlamus.

A nesaf?  Mae 'Llanw' gan Manon Steffan Ros wedi bod yn aros amdanaf am dipyn.  Amser i ddechrau'r llyfr hwn nesaf, dwi'n meddwl.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home