Ailddysgu

Monday 28 March 2016

Dwi'n casau cyfrifiaduron weithiau! A'r penwythnos Pasg

Felly, dyma sut aeth pethau.  Deffro'n gynnar a meddwl postio i'r blog.  Erioed wedi ei gnweud ar y gyfriadur newydd (MacBook) a chostiodd y byd a cymerodd bron flwyddyn i gael y pres at ei gilydd.  Cyn cyrraedd y blog, me ges i fy ofyn os oeddwn isio derbynnu 'update'.  Ia meddaf i - MOR DDINIWED! yr ateb anghywir!  Rwan, gyda'r 'operating system' newydd, medraf i ddim rhoi llun i'r blog.
Felly dyma fi yn ol at yr hen gyfrifiadur, sy'n cymryd oriau i wneyd bobeth ond dwi'n meddwl bydd o'n gweithio yn fama.  Gad i ni weld.
Dyma rhai o be dwi wedi bod yn gnweud dros y Pasg, felly.

Do mi ddoth yr 'Easter Bunny' -  a darganfod twll reit addas mewn coeden: oes Cwningen Pasg yn Gymraeg? (Doedd fath beth ddim yn bodoli pan o'n i'n blentyn



A mi wnes ddechrau ar ddarllen y pecyn o lyfrau a ddaeth cyn y Pasg.
Y gyntaf oedd Dan Gwmwl Du.  Gwych! Mae John Alwyn Griffiths yn awdur gwych.  D'on i ddim wedi sylwyddoli ei fod wedi sgwenny llyfr yn ddiweddar - a dwi'n edrych ymlaen at y nesaf.  "Dan" be fydd hwnny tybed?



A wedi mynd ymlaen gyda Chwynnu - dim cweit mor dda - ond yn cadw fy sylw yn sicr.  Yr unig beth - pam mae gymaint o awduron Cymraeg yn sgwennu am pobl "y Cyfryngau'? Does dim diddordeb yn ei bywydau gen i.

Dros y Gwyl Banc, buodd fy merch yng Nghyfraith yn gweithio, a felly, roedd y wyrion gyda ni dydd Gwener, ac er y tywydd gwych, doedd dim llawer o gyfle i arddio, ond serch hynny, ddoe mi tynnais y gwsberen o'r rhewgell a mi wnes hyfen ia gyda'r peiriant newydd - dyma dechrau'r proses.  R'oedd yn iawn hefyd, er bod y teulu yn dweud ei fod mwy fel yogwrt wedi rhewi.  A fel gwelwcy, mae rhai o'r cennin yn yr ardd yn dda i dim.  Cyfuniad o dywydd sych sych pan o'n i'n trawsblannu nhw a gaeaf mwy ofndadwy.




Dan ni'n trio cefnogi'r tafarn lleol, a fel dach chi'n gweld, mae'r ci yn mynnu mynd i fewn - ond dim ar 10 o'r gloch ar fore Sadwrn!




A dyma'r plant yn ol heddiw - oherwydd bod y nain a taid arall a oedd am eu warchod heddiw yn sal.  A'r unig rheswm dwi wedi medru postio i'r blog 'pnawn 'ma ydy bod y ddau yn cysgu ar y soffa ar hyn o bryd.

1 Comments:

At 29 March 2016 at 01:49 , Blogger Wilias said...

Penwythnos prysur iawn! Pob lwc efo'r cyfrifiaduron...

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home