Ailddysgu

Friday 19 February 2016

Pethau a llefydd lleol

Dyma dechrau ardderchog i’r penwythnos.  Eistedd yn y gwely yn gwrando ar Galwad Cynnar ac yn edrych yn ôl dros yr wythnos diwethaf trwy’r lluniau ar y ffôn. O’r diwedd dan ni wedi cael ychydig o ddyddiau heulog, heulog, a dwi wedi cymryd mantais ohonyn nhw wrth fynd am dro.  Mae gan Milton Keynes digon o lefydd wyrdd, a pethau hanesyddol hefyd, a dan ni’n ffodus yn y gwaith gan ein bod mewn parc ac yn eitha agos i bentrefi hanesol.  Felly dyma ychydig o bethau a llefydd o’r wythnos diwethaf:



Cennin o'r ardd: lleol iawn.  Dwi'n trio rhoi digon i fewn i barhau tan mis Mawrth.  Mae'r rhain wedi gwneud yn dda ac yn dda i fwyta hefyd. Mi wnes ‘bake’ (cynhigion am y gair Cymraeg?) gyda cennin, madarch a tatws, a caws ar ei ben – blasus iawn (hyd yn oed ar ol bod yn y ffwrn tamaid rhy hir). (A hefyd roedd llawer o’r salad yn dod o’r tŷ gwydr).



Dyma eglwys “St Michael”:


Mae’r Prifysgol Agored, lle dwi’m gweithio wedi ei sefydlu ar hen stâd: mae’r hanes i’w gael yn fama: Adeiladwyd yr eglwys yma o gwmpas 1350 a mae o’n adeilad hardd. Wrth gerdded am ryw ugain funud neu llai o’r gwaith, dyma cyrraedd pentre’ Simpson, gyda eglwys hanesyddol arall, St Thomas, a dan ni’n gwybod bod na eglwys yma erbyn 1231.  Mae adeiladau hardd a hen yn y pentref hefyd:



Mi fyddaf yng Nghaernarfon amser yma wythnos nesaf, ar gyfer y Gŵyl Ddewi Arall.  Edrych ymlaen yn arw!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home