Ailddysgu

Sunday 14 February 2016

Wythnos yn Milton Keynes

Mae hi wedi bod yn wythnos amrywiol, o ran ddigwyddiadau a tywydd.  Y gobaith (a’r cynllun) ar ddechrau’r wythnos oedd i gerdded rhan o’r llwybr arfordirol Cymru.  Mae fy ffrindiau wedi cerdded, hyd at hyn, o’r dechrau tuag at Aberaeron, (dim i gyd ar yr un pryd) a dwi wedi llwyddo i ymuno gyda nhw, pan r’oeddent yn cerdded ar Ynys Môn, ac ar arfordir Llŷn.  Ar wahan i un daith hyfryd hyfryd yn Sir Fôn, ym mis Awst,


dan ni wedi cael o leiau rywfaint o law bob tro.  Ond r’oedd yr arolygion tywydd ar gyfer dydd Llun diwethaf mor ddrwg, doedd dim pwynt gyrru i Gymru gyda storm yn effeithio’r arfordir.  Felly, gan fy mod i wedi mynd i Ludlow i ddechrau’r siwrnai, cefais dydd yn Ludlow ac o gwmpas cyn gorfod cymryd tren gynnar i ddod adref oherwydd bod llifogydd yn cael effaith ar y trenau.

Erbyn dydd Fercher roedd y tywydd wedi newid i fod yn heulog a glir (ac oerach).  Yn y gwaith, roedd y garddwyr wedi bod yn brysur yn torri planhigion i lawr: mae hyn yn cael ei wneud ar ddiwedd (neu tuag at diwedd) y gaeaf, 




felly arwydd da - a rhywbeth byddaf i yn gwneud gartref hefyd.

Does dim llawer wedi cael ei gwneud yn ein gardd ni eto.  Wel, dim o gwbl i ddweud y gwir.  Mae’r garlleg (a aeth i fewn diwedd mis Tachwedd) yn dod ymlaen yn dda, a hefyd y ffa llydan.  Treuliais awr yn y tŷ gwydr ddoe, yn clirio llanast llynedd (dipyn) ac yn dechrau paratoi am eleni.  Mae ffrind yn dod draw p’nawn ‘ma a bydd y ddwy ohonon ni yn gweithio gyda’n gilydd am ryw ddwy awr (y trefn ydy ein bod yn gwneud hyn yn fy ngardd i,  a wedyn ei gardd hi, bob yn ail).


Os dydy hi ddim rhy oer, falle bydd cyfle torri’r mafon hwyr i lawr, ond mae’r arolygon yn awgrymu tywydd oer iawn, felly mae gweithio yn y tŷ gwydr yn fwy debyg.  A cyn dechrau, cynhesu gyda cawl cenin – o’r ardd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home