Dwi wastad yn falch o gael llyfrau
newydd i ddarllen - mae llyfrau yn rhan bwysig iawn of fy mywyd, a mae bod yn
aelod o ddau glwb darllen yn wych. Na, fel arfer swn i ddim yn aelod o
ddau ond mae un yma ym Milton Keynes yn trafod llyfrau Saesneg, a mae’r llall,
yn LLundain yn trafod llyfrau Cymraeg.
Yn ddiweddar dwi wedi gorffen
darllen Y Bwthyn - nofel ddiweddar Caryl Lewis. (A hefyd LLanw gan Manon
Steffan Ros - ond dwi ddim am son am honno ar y funud). Hon ydy’r nofel
gyntaf gan Caryl Lewis i mi ddarllen. Dydy o ddim yn llyfr sydd yn llawn
o ddigwyddiadau cyffrous. Os dach chi’n darllen fy mlog, mi wyddoch fy
mod yn hoff iawn o lyfrau ditectif gyda naratif sydd yn symud yn gyflym.
Ond dim felly ydy’r nofel yma. Mae hi’n nofel dawel mewn ffordd, yn
ganolbwyntio ar bywyd cefn gwlad a bywyd a tymhorau ffermio: a hefyd ar y
perthnasoedd rhwng y tad a’r mab ar y fferm, a rhwng y ddau ohonnyn nhw a’r dyn
ifanc diarth, sy’n ymddangos un dydd, Owen, sydd yn aradeg yn dod i weithio ar
y fferm. Dydyn nhw ddim yn berthnasoedd hawdd: pan mae’r nofel yn
dechrau, mae gwraig Enoc, Hannah, wedi marw, a’r cnebrwn newydd ddigwydd a
mae’n amlwg mai hi oedd yn cadw’r disgyl yn wastad rhwn ei ŵr a’i mab.
Mae tyndra mawr rhyngddynt - a hefyd cyfrinair trist sydd ond yn cael ei
ddatgelu tuag at ddiwedd y nofel: cyfrinair sy’n esbonio, i ryw raddau, pan bod
gymaint o dyndra. Mae’r perthynas rhwng yr hen ddyn (a’i fab) ac Owen yr
ymwelwyr yn datblygu i fod yn ddiddorol hefyd, a mae Owen ei hun yn dipyn o
gyfrinach hefyd. Yr oll dan ni’n gwybod amdano ydy ei bod wedi dod i
sgwennu llyfr: dim byd llawer o gwybl am ei fywyd cyn dod i’r hen fwthyn ger y
fferm.
Ochr ar ochr gyda’r perthansoedd,
dan ni’n darllen am y cefn gwlad, am y tymhorau yn newid, ac am bywyd mewn lle
digon garw yn uchel yn y mynyddoedd. Dyma llecyn lle mae defaid yn marw
yn yr eira ar ol cysgodi wrth y clawdd ne’r wal - a’r gwynt yn hyrddio’r eira
atynt a drostyn nhw, a lle mae’r traddodiadau ffermio yn newid. Does dim
llond stafell o helpwyr i fwyta te fferm ar ol cneifio neu ar ol cynaeafu fel
digwyddodd mewn dyddiau cynt. Mae’r disgrifiadau o’r cefn gwlad - o’r
planhigion yn y gwanwyn, a’r gwrychoedd, a’r adar a’r annifeiliaid, yn wych - a
hefyd o’r digwyddiadau ar y fferm. Mae’n nofel sydd yn haeddu i’r
ddarllenwr rhoi digon o amser iddi hi. Ond hefyd, os nad oes diddordeb
mewn ffermio defaid na mewn y cefn gwlad, efallai bydd yn anodd parhau gyda’r
llyfr. I fi, r’oedd y ffordd dawel o fyw, a’r diffyg geiriau a sgyrsiau
hir yn taro deuddeg. Mae’r nofel wedi ei sefydlu yn bell o Wynedd lle
tyfais i fynny. Eto, roedd y bywyd a oedd yn cael ei ddisgrifio digon
debyg i be welais i ar y ffermydd lleol, pan oeddwn yn mynd o gwmpas fel
plentyn gyda fy ewythyr a oedd yn ffermio ger Waunfawr.
Ac ar ol mwynhau Y Bwthyn a LLanw,
dwi am ddechrau ar rywbeth tra wahanol.
Dwi wedi archeb llyfr newydd gan John Alwyn Griffiths – Dan Gwmwl Du, ac
ar ol mwynhau ei lyfrau eraill – edrych ymlaen.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home