Dechreuad Gwych i’r Gŵyl: Galwad Cynnar yn yr ardd: hynnyw yw - gardd Palas Print. Dyma ’r ail flwyddyn i’r rhaglen gael ei ddarlledu o’r siop. Ac am syniad da.
Felly ar ben bore Sadwrn gyda’r tywydd yn braf codais yn gynnar a mynd i lawr at y Fenai erbyn 5.45 i fwynhau’r bore hyfryd, a wedyn i’r siop erbyn 6. Dyma llun dwi’n hoffi: ryw hen dŷ neu dŷ cwch? ar lannau'r Menai yn edrych yn dda yn yr haul gynnar:
a gorhedydd y graig: mae'r rhain i'w weld yn y dre:
yn bendant dan ni ddim yn cael y rheina yn MK!
Mae Galwad Cynnar yn raglen mor wych a roedd yn braf iawn cael bod yn yr ardd. A'r ardd a dynnodd rhai o sylw y banelwyr: y mafon [ a tra roedden ni yn gwylio roedd fwyalchen yn bwyta un neu ddau], a'r afal tindwll, [os dwi wedi cael hi'n iawn] neu merysbren [sydd ddim yn achosi gymaint o chwerthin!]. Yn ol un ffynhonell “Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys
Merysbren Afal Agored, Afal Tindwll, Dindoll, Meryswydden, Tinagored, Tindoll.”
Mae'r ddwy flanhigyn yn gwneud yn dda iawn yma:
Panel gwych: Twm Elias, Elinor Gwynn, Math Williams a Kelvin Jones - a Mari Gwilym - ac Emrys Llewelyn hefyd yn cyfranu. Ges i ddim llun o bob un ar y panel, ond dyma lun o
Twm Elias a
Gerallt Pennant [y cyflwynydd].
A ddoe, fel y disgwyl, dipyn o bwyslais ar lyfrau. Roedden yn clywed barn y panelwyr ar sawl lyfr natur sydd wedi cael ei gyhoeddi ynn ddiweddar. Un llyfr a dynnodd fy sylw i oedd The Seabird Cry gan Adam Nicolson. Gwelais y llyfr yma mewn siop lyfrau yn yr Alban a roedd Elinor Gwynn wedi ei fwynhau yn arw. Felly un i’w brynu yn bendant.
Ond roedd llawer mwy o drafod diddorol, mwy na sydd yn bosib i grynhoi ac wrth gwrs, mae o'n hawdd i ddal i fynny gyda'r rhaglen os dach chi ddim wedi cael cyfle i wrando arni hi. Mae hi ar gael ar app BBC - a mae o'n bosib cael bodlediad o'r rhaglen hefyd. Dyna be dwi yn gwneud fel arfer a wedyn yn medru gwrando arni hi pan dwi'n beicio, garddio neu coginio - neu gwneud dim byd arall!
Gobeithio byddaf yn postio mwy am yr ŵyl yn y man.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home