Yn amlwg mi ges i fy magu mewn dre llawn o hanes gyda raenau o wahanol gyfnodau. Ond fel sawl plentyn, doess hanes y dref ddim yn chwarae rhan bwysig yn fy mywyd pan oeddwn yn blentyn. Fel ’cofi’ r’on yn cael mynediad am ddim i’r castell - a does dim lle gwell i chwarae cuddiad a rasio o gwmpas pan dach chi’n ddeg neu un ar ddeg.
Yn ddiweddarach, llawer, daeth y ddiddordeb. Ac ar ddydd Sul diwethaf, wythnos yn ôl gyda’r haul yn gwenu, cawsom cyfle i ddod i wybod am dipyn o hanes y dref, gan crwydro o gwmpas y dre gyda’r arceoloegydd lleol, Rhys Mwyn, sydd yn llawn o wybodaeth o bob fath, ac yn gwneud yr hanes yn ddiddorol dros ben. 'Roedd y daith yn rhan o
Wŷl Ddewi Arall. Dyma rhai o'r teithwyr ar ddechrau'r daith, gyda Rhys Mwyn.
O be dan ni’n deallt, y Rhufeiniaid roedd y gyntaf i setlo yn y dref (er swn i'n meddwl bod na ychydig o bobl yn byw yn agos i’r mor), ond dim lle mae’r dref heddiw, wrth gwrs, ond o gwmpas yr ardal Peblic lle sefydlwyd y Caer Rhufeinig.
Yn eithaf ddiweddar, tra cloddio at gyfer adeiladu ysgol newydd, darganfwyd pobdai bach yn dyddio o’r blwyddyn 77. Dyma pryd daeth y Rhufeiniaid a dyma pryd wnaethon nhw sefydlu gwersyll i’r dynion cael rhywle i aros tra roeddent yn adeiladu’r caer. Roedd yn debygol bod bara yn cael ei pobi yn y pobdai ar gyfer y gweithwyr llwglyd. Roedd y caer yn eitha mawr, a mae rhan o'r waliau i'w gweld heddiw, wrth ymyl 'South Road' - y lon sy'n rhedeg allan o'r dref tuag at Bontnewydd. Dyma rhai o weddillion y caer (dim lle r'oedd y pobtai).
A dyma rhan eitha fawr o'r wal rufeinig - ond ryw ganllath i ffwrdd o lle r'on i'n byw fel plentyn.
Dychmygwch y Caer yn ie brysurdeb gyda 500 o filwyr o Ewrop. A hon r’oedd yr unig gaer i’w gael ei ddefnyddio hyd at ddiwedd y gyfnod Ryfeinig - felly r’oedd hi yn frysur tan 393 OC.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home