Ailddysgu

Friday 8 February 2019

Cyfarfod Clwb Darllen Llundain: trafod Llyfr Glas Nebo

Cawsom noson hyfryd neithiwr yn trafod y nofel yma gan Manon Steffan Ros - a gyda tri aeilod newydd.  Weithiau dan ni wedi bod yn grŵp fach - ond dan ni’n tyfu!  A neithiwr roedden ni’n 13.

’Roedd pawb wedi mwynhau y llyfr yma - os mwynhau ydy’r gair iawn oherwydd mae’n stori ddu mewn ffordd: sut mae bywyd i fam a’i mab (a merch bach hefyd) ar ol ’Y Terfyn’. Mae Rowenna a Sion yn byw yn ymyl Nebo, yng Ngogledd Cymru - o le mae’n bosib gweld i lawr dros Gaernarfon a’r arfordir tuag at Ynys Môn.  A rywsut mae’r lleoliad yn bwysig: mae llawer o sylw ar y tywydd ac ar manylion Cefn Gwlad. Does neb yn gwybod yn union be ddigwyddod - ond sôn bob bom (neu mwy nac un) wedi disgyn rhywle yn America - a falle mewn llefydd eraill yn agosach hefyd.  Mae’r trydan yn mynd;  mae pobl yn gadael; mae Rowenna a Siôn yn dod yn ffrindiau gyda’i gymodogion sy’n byw yn ’Sunnydale’ ac yn dechrau tyfu llysiau a dal annifeiliaid i’w fwyta.  Wedyn mae ryw ffrwydriad yn digwydd - ac eto dan ni ddim yn gwybod y manylion, ond mae’n debyg bod rhywbeth wedi digwydd yn Wylfa.  Ar ol hynny mae’r cwml yn dod - a’r cymdogion yn penderfynnu gyrru i gyfeiriad Wylfa i farw.

Ond goroesi mae Rowenna a Sion. A gwella ar ol effeithiau’r cwml.  A parhau gyda ei bywyd o dyfu digon o lysiau, adeiladu lloches i’r planhigion a twnnel tyfu, a trwsio be sydd angen. Mi fase nofel wedi seilio ar y digwyddiadau yma fod yn ddu iawn.  Ond dim dyma ydy blas y nofel yma.  Dywedodd rhywun mae un o’r themau amlwg ydy cariad - a mae hynny’n wir.  Yn bennaf, y cariad rhwng y mab a’r mam.  Dydy’r perthynas clôs yma dim yn arferol - ond dydy’r sefyllfa ddim yn arferol: does dim ffrindiau, dim facebook neu trydar na phethau eraill electronig i ddiddanu’r mab.  Yn lle hynny mae o’n cael modd i fyw trwy datblygu sgiliau ymarferol: dysgu adeiladu, trwsio a garddio. Dan ni ddim yn cael gwybod am blentyndod Rowenna, ond mae'n amlwg bod pethau wedi bod yn wael arni - a bod hynny wedi cael effaith ar ei phersonoliaeth.

Mae’r digwyddiadau yn cael eu ddatgelu yn araf.  Mae’r ddau yn sgwennu mewn llyfr mae nhw wedi darganfod mewn un o'r tai gwag.  Mae’r ddau yn treulio llawr o amser yn darllen - a felly mae Sion yn datblygu ei Gymraeg llenyddol, fel petai, a hefyd ei wybodaeth.  (Mae o hyd yn oed yn dod yn gyfarwydd gyda'r Beibl.)  Felly mae o’n awgrymu eu bod nhw yn cadw ryw fath o ddyddiadur yn y llyfr - a fel llyfr Coch Hergest – bydd testyn hanesyddol – i unryw un sy’n ei ddarllen yn y dyfodol. Mae Sion yn awgrymu bod y ddau yn sgwennu yn y llyfr – ond dim yn darllen be mae’r llall wedi sgwennu.

Dwi ddim yn siwr bod y syniad yma yn taro deuddeg.  A mae hynny’n wir am llawer o bethau yn y llyfr.  Ond dydy hynny ddim yn tarfu ar gwerth y nofel, yn ein barn ni. Mae’r gwyddoniaeth, i raddau, yn simsan hefyd. A mewn rhai ffyrdd mae’r nofel yn ffantasi a falle yn alegori.

Be dan ni’n cael mewn y strwythur yma ydy cyfle i feddwl am ac edrych ar bywyd, a phernasau heb pethau byd modern: dim trydan felly dim rhewgell, oergell, na, wrth gwrs, trydan neu facebook. 

Dwi bron wedi gorffen ailddarllen y llyfr - a mae o’n drawiadol yr ail waith hefyd. Sgwennu syml, ond da - fel llyfrau eraill Manon Steffan Ros.

Dyma rhan o adolygiad Gwales dwi newydd ddarllen: 

Yr ymateb cyffredinol yw ei bod yn nofel hawdd ei darllen ond sy’n aros yn hir ym meddwl y darllenydd. A dyna yw camp ryfeddol Manon Steffan Ros; creu cymeriadau i ni boeni amdanyn nhw a sefyllfa frawychus o bosibl a chredadwy, er mor afreal.

Prin mae Siôn yn cofio bywyd cyn Y Terfyn, ac mae’n rhyfeddu at y ffordd roedd pobl yn arfer byw – y gwastraff, a diffyg pwrpas eu bywydau; mae pwrpas i bopeth mae yntau’n ei wneud – hela anifeiliaid bach i gael bwyd, trwsio rhannau o’r tŷ, goroesi. Mae perthynas Siôn a Rowenna’n newid yn ystod y cyfnod – o fod yn fam yn gofalu am blentyn bach i gyd-ddibyniaeth a chyd-aeddfedu. Mae bywyd yn anodd, ond wrth i’r gyfrol fynd rhagddi, mae cyfoeth eu bywyd yn dod yn amlycach – eu perthynas â’i gilydd, pleser mewn pethau bach, a gwirioneddol werthfawrogi byw yn eu cynefin. 

Mewn un man mae Rowenna’n cofio’n ôl i’r cyfnod cyn y Terfyn, pan fyddai hi’n mynd â Siôn am dro, a’i ffôn gyda hi, yn “creu sefyllfaoedd perffaith er mwyn rhannu delweddau ar-lein heb rannu dim byd. A Sion ers ei fabandod yn llonydd o flaen sgriniau … Roeddan ni’n byw heb ddistawrwydd – sŵn teledu neu radio yn parablu yn y cefndir o hyd – ond roedd yna fudandod gwag, afiach am y ffordd roedden ni’n byw”. Mae’r ychydig gymalau syml hyn yn enghraifft hyfryd o gynildeb Manon Steffan Ros. A hithau’n cyfansoddi stori fer fer i Golwg yn wythnosol ers rhai blynyddoedd, mae hi wedi hogi a mireinio ei chrefft a’i gallu i ddweud llawer iawn mewn bach iawn o eiriau. 




Dwi'n edrych ymlaen i orffen y llyfr am yr ailwaith.  A dwi'n siwr byddaf yn dod yn ol at y llyfr eto - ac eto.



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home