Ailddysgu

Wednesday 8 September 2021

Gwenyn a'r ardd llysiau

Wel dyma ni ym mis Medi a dwi ddim wedi postio blog am dair wythnos.  Rhag cywilydd!  Ond mae’r pethau yma’n digwydd a dwi am drio sgwennu yn fwy aml.  Ar y funud mae’r tywydd yn haelog ac yn boeth iawn am fis Medi, felly gobeithio bydd y squash yn aeddfedu.  Ar ol dechrau ofnadwy, mae na rŵan digon o blanhigion courgette ac ambell squash.


Ond be sydd yn tynnu fy sylw ar y funud ydy’r gwenyn a’r pryfed hofran (os ydy’r gair iawn gen i!)  Mae’r sedum wedi dod allan yn yr haul a mae’r gwenyn yn ymweld a bron bob blodeuyn.  Cyfle ardderchog i ddefnyddio’r lens macro ar y camera, ond dim mor hawdd a hynny i dynnu llun golew............. Ond ymarfer sydd angen, dwi’n gobeithio.



Dydy eleni ddim wedi bod yn flwyddyn dda yn yr ardd, yn enwedig yn yr ardd llysiau.  Tywydd gwlby ofnadwy dros y gaeaf; oer oer yn y gwanwyn  a wedyn sych, a gwlyb eto.... rŵan sych a phoeth, er bod yr haul ddim allan gymaint dros yr haf.  O’r diwedd mae’r ffa ffrenging yn dod, a dan ni wedi cael digonedd o eirin ac afalau gynnar, a mwy i ddod.  Dwi wedi cael gwared o’r eirin Mair: dwi ddim yn or hoff ohonynt, ac yn ei lle, bydd mafon hydrefol.  Dyna’r cynllun!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home