Ailddysgu

Sunday 21 March 2021

Mae'r Gwanwyn wedi dod

 O’r diwedd,mae’r Gwanwyn wedi dod i’n gardd ni.  Ar y pymthefged o Fawrth, gwelais grifft yn ein pwll yn yr ardd, a wedyn, yn ystod y bore, roedd y pwll yn LLAWN o lyffantod, yn edrych mor hapus.  Llyffantod o bob liw. Yn anffodus, erbyn i’r ŵyrion cyraedd ar ol ysgol dydd Fercher, roedd y llyffantod wedi diflanu i’r pwll. Dan ni’n meddwl bod o leia bymtheg o lyffantod – a rŵan mae digon o rifft yn y pwll.  Felly mae cenhedlaeth newydd o lyffantod yn y pwll.



Nos Iau, ar y ddeunawfed, gwelais draenog yn yr ardd hefyd.
  A chroeso mawr i hi neu fo a gobeithio bydd o yn bwyta digon o wlithod a malwod.

 

Gyda’r tywydd yn cynhesu, mae digon o waith i’w gwneud yn yr ardd.  Does dim llawer o dyfiant ar y flanhigion bach bach sydd yn y tŷ gwydr eto, ond gyda lwc bydd tomatos, aubergines a phupurau yn dod  yn yr ha.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home