Ailddysgu

Sunday 27 June 2021

Ar y Gogarth



Dan ni wedi bod yn aros ar y Gogarth, ar ein gwyliau. Mae’r tŷ tua hanner ffordd i fyny’r Gogarth, a roeddwn wrth fy modd gyda’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt.

 

Dyma un ddisgrifiad o natur y Gogarth:

Mae’r Gogarth yn bentir calchfaen trawiadol, credir ei fod dros 350 miliwn o flynyddoedd oed. Mae’n cynnal amrywiaeth eang o flodau ac anifeiliaid, sy’n bodoli yn unig oherwydd yr amrywiaeth o gynefinoedd ar y Gogarth. Mae’r cynefinoedd yma’n amrywio o rostir cyfoethog i glogwyni mor, glaswelltir calchfaen a choetiroedd. Mae rhai’r o’r rhywogaethau a geir ar y Gogarth yn brin iawn fel y brân goesgoch, ac ni ellir dod o hyd i rywogaethau eraill yn unman arall, fel glöyn byw’r glesyn serennog. “

Mae’r ddisgrifiad yma yn dod o dudalen sydd yn dangos dwy daith (tsecia) cerdded natura r y Gogarth. https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Leisure-sport-and-health/Coast-and-Countryside/Assets/documents/Great-Orme-nature-trail.pdf

  

Mae na gymaint o lwybrau i ddweud y gwir ond roeddwn i yn gobeithio cerdded ar o leiau un o’r llwybrau yma.  Ond, er bod y daflenni i’w gael o’r ganolfan ymwelwyr ar y copa, a llwyth o wybodaeth am fywyd gwyllt y Gogarth, pan aethon ni i chwilio am y wybodaeth, roedd y ganolfan ar gae.  (Oherwydd y pandemic sw’n i’n meddwl).Ac ond wedyn ffeindiais y wybodaeth ar y we. Ond wedi dweud hynny, wnaethon i gerdded rhan o lwybr un.  Yn anffodus gwelson ni ddim y fran goesgoch wrth grwydro wrth ymyl y wal sydd yn rhedeg mewn cylch o dan y gopa.  Mae’r fran goes goch yn hoffi glaswellt byr, wedi pori, ond yn ol y daflen, mae “Marine Drive” yn lle dda i’w gweld.  Ary pryd, roedd tarth eitha drwchus o gwmpas y Gogarth, ac erbyn i ni ddod yn ol o’r taith  cerdded  a gyrru hyd Marine Drive, doedd ddim yn bosib gweld llawer o gwbl!

 

Serch hynny, roedden ni yn cerdded ar y Gogarth bob dydd, a wedi gweld gymaint o flodau nad yw yn gyffredin neu hyd yn oed yn bodoli mewn llefydd eraill.  A ninnau yn byw yn nghanol y wlad yn MK,braf iawn oedd gweld clustog Mair (thrift) ym mhobman.  Pig yr aran rhuddgoch ydy'r ail lun (bloody cranesbill).







0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home