Ailddysgu

Saturday, 8 May 2021

Mwy am goed, garddio a bywyd gwyllt

O’r diwedd, clywais y gôg echddoe a bore ddoe, wrth gerdded ar y comin, o’r cae isaf wrth yr afon.  Dyna un o’r llefydd lle dwi’n ei glywed. Erbyn hyn mae’r gôg yn eitha brin mewn llawer o lefydd, yn anffodus.  Felly dwi’n lwcus medru clywed y gôg dim rhy bell o’r tŷ.


Mae o parhau i fod yn wanwyn oer oer hyd at hun.  Ond sych. (Ond mwy am hynny yn y man). 

 

Yn yr ardd, fel dwedais tro diwethaf, dwi wedi bod yn trio ail drefnu’r bordor cefn gyda coed sydd yn denu bywyd gwyllt; adar fel arfer.  Mae’r bordor yma yn y cysgod, a wal ryw 6 droedfedd tu ol iddo fo, felly mae rhaid cael planhigion sydd yn hapus heb ormod o haul, a sydd yn ymdopi gyda sychder. Roedd coeden ceirios yna, blynyddoedd yn ol, a mae’r rheini’n dda ar gyfer safle sydd yn gwynebu’r gogledd, ond wnaeth y goeden ddim llwyddo. Hefyd roedd ‘hydrangeas’, ond yn bendant roedd hi’n rhy sych a rhy cysgodol i’r rhosod.  Felly allan a nhw!  A rhoi nhw i ffrindiau (y hydrangeas) neu symud nhw i lecyn gwell (rhosod).

 

Mae un goeden ar ol o be rhois i yna yn wreiddiol - Garrya Elliptica, sydd yn eitha fawr erbyn hyn.  A dipyn fel marmite: rhai ddim yn ei hoffi o o gwbl. Dwi’n eitha hoff ohoni, a mae’r adar yn cysgodi ynddi hi yn aml, yn enwedig yn y gaeaf.  




Dach chi’n medru gweld cornel ohoni yn y llun yma a dynnais o ffenestr y stafell molchi  Ar y chwith yn agos i’r wal (a gwelwch y coed benthyg i gyd tu ol i’r wal!)


Dewisais Cotoneaster cornubia i fynd wrth y wal yr ochr arall, ar y dde.  Mae na viburnum sydd ddim yn wneud yn dda iawn ar yr ochr arall (a mae’r adar yn hoffi honna hefyd) felly gobeithio bydd hi yn goroesi.  Ond ddyle’r cotoneaster fod yn dda i’r adar gyda digon o aeron, ac yn edrych yn brydferth hefyd.  



Coeden arall oeddwn i isio oedd coeden celyn.  Mae coeden celyn arall (gwyllt) yn yr ardd, ac un tu allan i’r ardd, ond wnes i ddewis celyn Golden King sydd u
nwaith eto yn dda i adar – ac yn angenreidiol efalla i’r ia bach yr ha yma: 



 (dim llun da iawn- wedi  ei tynnu gyda’r ffon symudol). Dwi wedi anghofio'r enw Gymraeg yn baron - clywais rhywun yn siarad amdani ar Galwad Cynnar - ac awr wedyn - wedi anghofio! Glas yr iorug efalla? Oherwydd mae'r glôyn byw (wel y lindys) yn bwyta iorug hefyd.  Mae gwybodaeth fanwl amdani hi yn fama.

Ond mae o’n anodd i brynu coed ar y funud: cyfuniad o Brexit a Covid wedi cael effaith mawr ar feithrinfeydd.  O’r diwedd ddois ar draws goeden fach ifanc.  A honna sydd yn yr ardd rwan: bydd rhaid aros dipyn iddi hi dyfu a ddatblygu. 

Yn ddiweddar dan ni wedi cael dipyn o law - a mae hynny wedi bod yn beth dda ofnadwy.  Roedd hi'n bwrw'n drwm dros prynhawn dydd Llun Gŵyl Banc, ond wedi sychu digon i fi weithio yn yr ardd dydd Mawrth a Mercher - a roeddwn yn wir falch pan gyrrhaeddodd coeden bach arall roeddwn wedi prynu, prynhawn Fercher. Coeden bach ceirios ydy hon, ar gyfer y brif bordor: Prunus incisa 'Kojo No Mai" : 

Bydd hi ddim yn tyfu rhy fawr, ac yn cymryd lle y Tamarisk druan a oedd wedi bod yn marw yn araf bach, tan i fi dynnu allan y sgerbwd llynedd.  A fel y coed eraill, yn hardd AC yn denu adar!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home