Ailddysgu

Saturday 3 July 2021

Byw Iaith

Wel yn amlwg, dwi ddim wedi lwyddo i flogio yn wythnosol, fel roeddwn yn gobeithio.  Ar y funud dwi’n ailddarllen llyfr Aneirin Karadog sydd yn fath o ddydiadur o’r flwyddyn fuodd yn byw yn LLydaw, a fel mae’r teitl yn dweud:  “Byw Iaith”.  Er ei bod wedi cael ei fagu ar aelwyd Lydaweg (ar ochr ei fam) a Chymraeg o ran ei dad, doedd o ddim yn hawdd iddo drosglwyddo’r iaith i’w ddau blentyn mewn cydestun di-Lydaweg.  A felly dyna un reswm fawr dros dreilio flwyddyn yn Llydaw lle cafodd ei ferch, Sisial, fynd i ysgol Lydaweg. O bob sôn, mi ddaeth yn rugl yn eitha gyflym.  A felly mae o gyda plant ifanc ynte?  Os ydy’r plentyn yn  bedair oed neu yn 6 neu 7,  a mae’r iaith o gwmpas, mae’r iaith yn dod.  Felly yr oedd o i fi, yng Nghaernarfon, yn dechrau ysgol yn bedair oed.

Ond mae Llydaw yn eitha wahanol i Gymru, a fel gwelir os dach chi’n darllen y llyfr, mae defnyddio’r iaith wedi lleihau yn sylweddol, a dydy o ddim yn beth arferol o gwbl i glywed yr iaith ar y strydoedd.Felly, diolch byth i’r ysgolion lle mae plant yn cael eu haddysg trwy Llydaweg: yr ysgolion Diwan.  A dyna lle aeth merch bach Aneirin. Ond, yn ddiweddar, mae addysg Llydaweg wedi ei wneud yn anghyfreithlon gan y llywodraeth yn ol Adran 2 cyfansoddiad Ffrainc!  Am warthus! Beth sy’n bod ar lywodraeth Ffrainc i’w wneud hi deimlo mor fregus ynglyn a’r iaith? Dydy Ffrangeg ddim am ddiflanu yn y flynyddoedd a ddaw, ond gellir Llydaweg. 


Gofynodd ffrind (sy'n dysgu Almaeneg) wrthaf ddoe: faint o amser wyt ti'n treilio ar y Gymraeg mewn wythnos?  Doedd o ddim yn hawdd i ateb, oherwydd be dwi'n trio gwneud ydy cyfuniad o ddarllen, sgwennu (fel rwan), gwylio ambell beth ar S4C a gwrando ar bethau sydd o ddiddordeb beth bynnag.


Heddiw er engraifft, darganfais bodlediad newydd i:"Byw LLyfrau" https://podcasts.apple.com/gb/podcast/byw-llyfrau/id1567785114. Diolch i Jo Heyde o’r Clwb darllen Llundain am y wybodaeth.  Wnes i wrando ar Rebecca Jones yn siarad (a sgwennodd Mudferwi: llyfr gwych). Rwan mae hi wedi sgwennu llyfr ar gyfer oedolion ifanc: #Helynt, a, mae hi wedi sgwennu dilyniant I Fydferwi – hwre!


A hithau’n ddydd Sadwrn, byddaf yn aml yn dechrau’r dydd gan wrando ar Galwad Cynnar: fy hoff rhaglen radio. Os dwi’n mynd i nol bara o’r becws hyfryd sydd yn pobi bara a chocolate ganache gwych,medraf cerdded ar draws y comin a trwy’r parc i’r siop, sydd ar stad bach ryw filltir i ffwrdd.  Felly os dwi digon gynnar mae Galwad Cynnar yn chwarae ar Sounds  tra dwi’n cerdded gyda’r ci.  Dechrau gwych i’r dydd.  A dipyn o Gymraeg hefyd – ond dwi ddim wedi cael sgwrs Cymraeg heddiw: bydd rhaid aros tan fory am hynny.




0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home