Ailddysgu

Saturday 12 June 2021

Cymraeg dros yr haf

Cymraeg dros yr haf...

 

Wel, un fantais o’r flwyddyn diwetha, sydd wedi bod mor anodd mewn llawer ffordd, ydy fy mod wedi medru ymuno a dosbarthiadau Cymraeg, yn gyson.  Dim o’r  gogledd, yn anffodus; roedd amseru’r gwersi’n gweithio’n well i fi os oeddwn yn mynd gyda Caerdydd, a chefais diwtor gwych wrth gwneud hynny.  Dros y flwyddyn dan ni wedi trafod bob fath o bethau, yn cynnwys cerddi, pynciau cyfoes, pethau diwylliannol, hanes a wedi gnweud cryn dipyn o ramadeg hefyd.

 

Fel dach chi’n gwybod os dach chi’n darllen y blog yma, mae ’na wendidau yn fy ngramadeg.  Mae treigladau yn achosi problemau o hyd ac o hyd.  Felly be dwi wedi dysgu ar ol 10 fis o wersi, ac o adborth ar fy sgwennu?

 

Mae ’na tri peth sy’n achosi’r rhan fwyaf o’r cangymeriadaun (treiglo) i fi. 

 

1) Yn aml dwi ddim yn gwybod cenedl gair.  Wrth gwrs dwi’n gwybod gyda geriau sydd yn cael ei ddefnyddio’n aml, ond beth am, er engraifft, geiriau haniaethol?  Roedd rhan o o leiau un gwers yn trafod y rhain, ond wrth gwrs dwi ddim yn cofio rŵan.  Felly bydd rhaid mynd yn ol i’r nodiadau.  Dwi YN cofio bod  arddangosfa, amgueddfa ac arddangosfa i gyd yn fenywaidd - falle y ’fa’ na ar y diwedd sydd yn gyfrifol..... A pan dwi’n sgwennu mae’n cymryd mynedd i tsecio cenedl bob gair dwi ddim yn gwybod...Felly mynedd piau hi

 

2)  Mae pethau amlwg a chyffredin yn achosi problemau o hyd.  Dwi YN gwybod y rheol am ’am ar at gan’ a. y. y. blaen.  Ond rhywsut, dwi ddim wastad yn sylwi fy mod heb treiglo ar ol un o’r arddodiaid yma.

 

3)  A dyna’r trydydd: sylwi!  Yn anffodus, yn aml, mae rhywbeth yn sownio’n iawn i fi. Felly dydy fy nghlust ddim yn ddibynadwy.  Dros yr haf, dwi am drio gnweud blog bob wythnos.  Falle  na fyddaf yn llwyddo bob tro.....ond gan fy mod wedi arfer gnweud gwaith cartref bob wythnos dwi’n gobeithio byddaf yn cyfrannu at y blog mwy na dwi wedi gwneud dros y deg fis diwethaf. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home