Ailddysgu

Friday, 12 March 2021

Manteision y cyfnod clo: gwersi cyson ac edrych yn ol

A hithau’n para cyn gymaint, dan ni i gyd yn edrych ymlaen at medru gwneud pethau eto fel cael pryd o fwyd, gweld mwy nag un person arall a.y.y.b.  Ond mae ’na fanteision hefyd.  Cyn dechrau’r cyfnod clo, roedd gwersi Cymraeg yn achlysurol.  Ro’n yn mynychu ysgolion undydd Llundain pan oeddwn yn medru, a roedd y rheina yn hwb fawr ac yn help i wella fy Nghymraeg, ond ond yn digwydd tair waith y flwyddyn.

 

Gyda’r cyfnod clo cymerais y cyfle o ymuno a gwersi Cymraeg rhithiol.  Mae ’na ddewis eang a gymaint ar gael.  Ro’n am osgoi’r nosweithiau pan roedd y gymdeithas “Milton Keynes Natural History” ymlaen a phenderfynais ymuno ar ddosbarth ar nos Lun.  Doedd dim dosbarth Ogleddol ar gael, felly ymunais ag un o Gaerdydd.

 

Dwi wedi mwynhau y profiad yn arw, a dwi’n meddwl ei fod wedi gwneud lles i fy Nghymraeg hefyd.  Efalla i fi, y peth gorau ydy cael adborth ar gwaith cartref ysgrifennedig, er bod gweithio yn y Gymraeg am ddwy awr bob wythnos yn ardderchog hefyd.  Ond dwi ddim wedi cael adborth ar fy sgwennu ers cymryd y cwrs trwy’r post o Brifysgol Bangor (ar wahan i’r ysgolion undydd Llundain).  Roedd hynny’n amser maith yn ol rŵan. Wedi tsecio yn ol yn y blog, gwelaf fy mod wedi mynd i ysgol undydd yn Llundain ar ddechrau mis Mawrth yn 2009.  


A hefyd dwi wedi dod ar draws lun o ysgol undydd deng mlynedd yn ol yn 2011. Pryd hynny roedden ni yn dod at ei gilydd i ganu ar ddiwedd y dydd.



A gwelaf hefyd fy mod wedi gwneud y cwrs Maestroli (trwy’r post) deng mlynedd yn ol.  Dydy o ddim yn teimlo mor bell yn ol a hynny.  Mae’n amlwg fy mod wedi trio dysgu a wedi cael fy nysgu am sawl elfen ramadegol sawl gwaith.  A dyna’r peth.  Dach chi ddim jyst yn dysgu’r pethau yma a wedyn yn cael nhw’n gywir yn syth bin.  Mae o’n cymryd amser.  Ond y mantais o cadw’r blog ydy fy mod yn edrych yn ol ar y pyst sgwennais flynyddoedd yn ol, a gweld y camgymeriadau, sydd yn beth dda! 
 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home