Llandeilo
Dwi ar fy ffordd yn ôl o Landeilo, wedi treulio 3 diwrnod gyda fy ffrind Jan. Cawsom glaw trwm ar y taith i Landeilo a glaw trwm ddoe, hefyd, ond cawsom diwrnod haelog dydd Mercher, felly i ffwrdd a ni i wneud dipyn back o gerdded ar y bryniau cyn ymweld â Charreg Cenen. (Gwelir https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/carreg-cennen). Er bod llawer o’r castell yn adfail rŵan, roedd o’n edrych fel bod yr adeilad gwreiddiol o safon dda. Rhaid bod adeiladwyr gyda sgiliau gwych yna ar y pryd. Mae’r olygfa o’r castell yn ddrawiadol, beth bynnag.
gydag olygfeydd ardderchog o’r cefn gwlad o gwmpas. (llun). ’Roedd wir yn braf cael cerdded mewn lle bryniog ar ol y llefydd wastad yn MK.
A wedyn eistedd yn yr haul yn cael teisen a phanad, a gwylio'r wenoiliaid cyn ymweld a chastell Dinefwr, castell arall gydag olyga bendigedig, a cherdded trwy’r parc a gweld y coed hynafol a’r ceirw.
Ddoe gyda’r glaw trwm yn ol, aethom yn ol i Dinefwr ond i grwydro o gwmpas y tŷ (a cadw’n sych yn y glaw), ac i’r siopau yn Llandeilo wrth gwrs, i brynu llyfrau Cymraeg ail-law.
Ond heddiw gyda’r haul yn gwenu eto, ’roedd cyfle i grwydro o gwmpas Cwm Du ac ymweld a’r hen abaty yn Talyllychau a mynd am dro bach o gwmpas y pentre a dringo i fyny rywfaint i cael gweld yr olygfeydd. Cefais sgwrs diddorol yn siop y tafarn yng Nghwm Du gyda un o drigolion y pentre sydd wedi byw yno am 84 flwyddyn. Acen hyfryd (a thafodiaith) Sir Gâr. Ond trist iawn oedd clywed nad oedd neb, bron, o gwmpas (ar wahan i’w deulu ei hyn) yn siarad Cymraeg bellach. Ydy o’n gofyn gormod i bobl dŵad gnweud rhyw ymdrech gyda’r iaith? Mi ŵn bod Cymraeg yn medru bod yn anodd i’r Saeson, a mae rhai yn dysgu ac yn gwneud yn dda, ond mae rhai ddim hyd yn oed yn medru (neu yn dewis) dysgu dweud Bore Da, p’nawn da, neu diolch. Ond beth bynnag roedd cerdded o gwmpas Talyllychau ac ymweld â’r abaty yn brofiad gwych.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home