Ailddysgu

Monday 24 October 2022

Covid a darllen


Wel, yn fy malchder, roeddwn yn wir gobeithio fy mod wedi osgoi Covid, ond na. Ar ol dechrau gyda dolur gwddw, nos Wener, datblygodd cur pen enfawr a chyfog – a’r diwrnod wedyn cymerais y prawf a ddaeth yn ol yn bositif.  Dwi’n teimlo’n llawer gwell nag oeddwn erbyn rŵan, ond wedi gorfod gohirio neu ddileu ambell ymweliad gan gynnwys dal i fyny am goffi a sgwrs gyda’r ddwy ferch (a ffrindiau) sy’n byw ar bwys y comin, bore Iau nesaf.  A felly ar ol gwneud rywfaint o waith, cysgu dipyn a.y.y.b, es at i i chwilio am bodlediadau Gymraeg.  Mae llawer ar gael yn fama: https://ypod.cymru/all.  Yn enwedig, gwrandawais ar y bennod lle roedd Rebecca Roberts y trafod #Helynt. https://ypod.cymru/podlediadau/bywllyfrau?id=bywllyfrau&CatID=6&Cat=Sioeau%20Ffeithiol#Siarad%20Llyfrau%20gyda%20Rebecca%20Roberts

Ar gyfer bobl ifanc mae’r nofel yma, a mae o’n dda, ond dim cystal (i’r oedolyn yma) a Mudferwi a’r dilyniant Chwerwfelys.  Wedyn mi es yn ol i hen bennod Ar y Silff a oedd yn trafod Te yn y Grug a sylwyddolais nad oes gen i gopi o’r llyfr ar fy silff i a heb ei ddarllen am amser maith felly es at i i gael copi newydd o’r llyfr a hefyd, llyfr ddiweddar John Alwyn Griffiths.  Dwi erioed wedi cael fy siomi gan llyfran JAG.  Mae’r Gymraeg yn dda, a’r stori yn afaelgar, bob tro.  Llyfr ddelfrydol os dach chi ddim yn teimlo’r rhy gryf felly. 

 

Ac am gyd-ddigwyddiad.  Daeth elythyr Palas Print ataf fel ebost yng nhynnwys yn darn yma a sgwennodd Eirian James, cyd-berchennog Palas Print ar gyfer Nation Cymru.  Dyma’r cyswllt:

https://nation.cymru/culture/my-reading-life-eirian-james/

Diddorol gyda digon o syniadau ac ysbrydoliaeth. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home