Ailddysgu

Sunday 22 May 2022

Cwrs undydd yn LLundain


Ddoe, ‘ron i’n trio dal i fyny yn yr ardd, (a fel arfer roedd y teulu drosodd am ginio Sul) ar ol diwrnod gwych yn y Ganolfan Cymry Llundain dydd Sadwrn, lle roedd cwrs undydd.  Medraf i ddim cofio pryd roeddwn yn Llundain y tro diwethaf cyn hynny: cyn y cyfnod clo gyntaf beth bynnag!  A mae pethau wedi newid.  E. engraifft; dim amserlennau argraffedig yn yr orsaf yn MK, dim ond côd QR.



Cyrhaeddais y ganolfan mewn digon o amser i ddarganfod y lle ar gau – ond ar ol dipyn roedden ni i gyd i fewn a roedd o’n edrych fel bod yna criw resymol i wneud cyrsiau ar 4 lefel .  Roeddwn yn ffodus i gael Siân Northey yn diwtor i lefel Uwch.  Mae’n dda cael rywun sydd yn sgwennu ac yn barddoni ac yn ogystal a cael digon o gyfleoedd i siarad, a gwneud dipyn back o ramadeg, cawson edrych yn fanwl ar ddwy gerdd doeddwn i ddim wedi gweld o’r blaen.  Roedd y ddwy yn ardderchog.  R’oedd un gan Siân ei hun a’r llall gan Haf Llewelyn.  Dwi mor hoff o nofelau a storiau byr Siân (fel sgwennais dipyn bach yn ol pan roeddwn yn darllen Cylch a Dim Ond Clwyddau) ond i ddweud y gwir dwi ddim wedi edrych llawer ar ei barddoniaeth.  Mae un gyfrol gen i sydd yn mynd yn ôl dipyn -  felly byddaf yn tynnu hwnna i lawr o’r silff i gael sbec.  A dwi ddim wedi darllen llawer gan Haf Llewelyn o gwbl.  Darllenais Mab y Cychwyr, dipyn yn ol – ond wnaeth o ddim gydio, rywsut.  Ond roedd y cerdd yma yn wych.  Felly falle byddaf yn chwilio am fwy.

 

Yn y prynhawn gwnaethon weithdŷ bach ar sgwennu greadigol – mi oedd hwnnw’n wych hefyd.  Dwi’n eitha hoff o sgwennu – a mi faswn wrth fy modd taswn yn medru sgwennu nofel (yn unryw iaith!) ond dwi’n eitha siwr bod ba ddim nofelwraig yn cuddio tu fewn i fi.  Dim clem lle dwn i’n dechrau a dim syniadau! Ond roedd hwn yn brofiad braf a dwi’n dechrau meddwl (eto!) am drio un o’r cyrsiau yn Nhŷ Newydd.  Ar ol edrych rŵan dwi ddim yn gweld un sydd yn apelio yn syth (dan ni bron hanner ffordd drwy’r blwyddyn). Un sgwrs bach yn dilyn cwestiwn gan Siân cawsom ar ddiwedd y dydd oedd am sut dan ni’n cadw’r Cymraeg yn fyw yn ein bywydau?  H.Y. dan ni ddim yn byw yng Nghymru felly rhaid creu ryw fath o fywyd Gymraeg.  Mae hon yn gwestiwn dwi’n gofyn i fi fy hun yn eitha aml, ac yn y bôn, yr un atebion: sgwrsio, o leia unwaith yr wythnos am awr dros y ffôn gyda ffrind (a weithiau gyda ffrind arall)– mae hynny’n bwysig, ac yn aml gyda ffrind arall lleol ac yn y dosbarth wythnosol; a’r cyfarfodydd misol dros zoom; darllen, yn gyson a mynd i’r clwb darllen; gwrando ar radio Cymru; gwylio S4C a mynd i’r gŵyliau arall yng Nghaernarfon (yn y gorffennol).  Mae o’n sownio fel digon, ond dwi ddim yn siwr. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home