Dechrau mis Medi yn yr ardd
O, dwi’n casau tecnoleg weithiau. O’n am gynnwys lluniau o’r ardd sydd ar fy iphone - ond dydy’r teclennau ddim am gysylltu â’u gilydd heddiw, ond ta waeth. Felly bydd y lluniau blodau ddim yn adlewyrchu eleni (er eu bod o'r add!)
Dwi wedi bod yn gweithio’n galed yn yr ardd yn ddiweddar, ac ers i ni cael dipyn o law o’r diwedd mae rhan o’r ardd yn edrych yn eitha dda. Mae’r haf yma fel petai wedi bod yn ddarn o ymchwil anffurfiol. Be sydd yn medru goroesi sychder a tymherau uchel a be sydd ddim?
Yn gynnar yn y tymor methais gyda’r blodau unflwydd. Fel arfer dwi’n tyfu rudbeckia a comsos
a mae’r rhain yn gwneud mor dda ac yn para tan ddaw’r rhew. Ond eleni, ches i ddim lwyddiant gyda’r rudbeckias a wnaeth y cosmos tyfu’n iawn ond gwrthod blodeuo.
Ond mi faswn yn dweud mae ser y sychder ydy’r salvias. Y rhai gyda dail eitha bach sydd yn goroesi ein gaeafau ni yn hawdd. Does ganddyn nhw ddim blodau coegwych; maent yn ddistaw, fel petai.
Ond mae’r gwennyn a throchfilod eraill yn hoff iawn ohonyn nhw - a maent wedi goroesi heb cael ei ddyfrio o gwbl. A sedum wrth gwrs; a mae nhw yn edrych yn wych wrth iddynt flodeuo rŵan, a dwi wedi tri tyfu planhigion newydd o cuttings felly gawn gweld.
Mae’r echinops hefyd wedi goroesi’n dda a hefyd y lafant a’r rhosmari.
Dwi wedi gorfod dyfrio yn yr ardd llysiau, a’r potiau hefyd wrth gwrs. Ond o’r llysiau, mae moron wedi gwneud yn dda eleni, roedd y mafon yn iawn (gyda dyfrio hael), a dan ni ond yn dod i ben gyda’r ffa Ffrengig rŵan.
Es i feithrinfa newydd wythnos diwethaf. Un ardderchog: trueni ei fod o leia hanner awr i ffwrdd. Prynais dau salvia newydd. Falle gwnân goroesi’r gaeaf a falle ddim felly dwi wedi cymryd cuttings yn barod.
Y peth arall dwi wedi gwneud ydy rhoi llwer o gompost ar y gwlau a wedyn digon o mulch ar wyneb y ddaear a gobeithio bydd hynny’n helpu’r planhigion os daw tywydd sych sych eto.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home