Ailddysgu

Tuesday 11 October 2022

Dechrau mis Hydref yn yr ardd

Mae gymaint i’w wneud yn yr ardd.  Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn garddio, yn garddio, ac yn garddio....Mae’r hydref yn amser gwych yn yr ardd: mae’r pridd yn gynnes ar ol yr haf - ac eleni, dan ni’n falch o gael dipyn o law ar ol yr holl sychder a’r tywydd poeth. Mis diwethaf roeddwn yn cymryd toriadau o blanhigion fel y salvia a’r osteospermum,  a wedi gwirioni wrth weld bod gwreiddiau da wedi datblygu yn barod.  Dyma un mewn potyn bach (roedd gorchudd plastic arnyn nhw, yn y tŷ gwydr).


 

Amser hefyd i drio gadw planhigion salad trwy’r gaeaf, os dach chi’n dechrau ym mis Awst (yr amser gorau) neu, falle, mis Medi (roedd Awst rhy boeth eleni).  “Artic King” ydy’r letysen yma - gobeithio bydd rhai ohonyn nhw yn barod cyn y Gwanwyn, ond cawn gweld. 

 


Mae’r rhain yn y tŷ gwydr hefyd, ond ddylse nhw fod yn iawn yn yr ardd.  A dyma nhw eto dan “cloche” plastig. 



 Tu allan i’r tŷ gwydr mae ’na ddigonedd i’w wneud hefyd.  Mae’r compost wedi datblygu’n dda



a mae hwn yn mynd dros y gwlau llysiau fel carped clyd dros y gaeaf.  Un o’r tasgau bleseris i’w ddod ydy plannu’r bylbiau a cael edrych ymlaen at y Gwanwyn.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home