Yn ddiweddar, es i ynys Sgogwm (Skokholm) am wythnos. Am brofiad! Tybiaf bydd y blog yn cynnwys llawer am yr ynys dros y dyddiau neu wythnosau nesa. Dipyn bach am yr ynys i ddechrau. Ynys eitha bach yn Sir Benfro, a dim ond y wardeiniaid ac ambell wirfoddolwr neu ymchwilwr sydd yn byw ar yr ynys yn barhaol. Es i yna gyda grŵp o fodrwywyr a dau ffotograffwyr - am wythnos. Mae o'n bosib mynd am benwythnos neu Pythons.
Y pâl, efallai, ydy seren yr ynys i’r ran fwya, felly dyma testun y post yma. Mae’r palod yn amlwg wrth i’r cwch dod i’r lan; yn heidio o’r môr i’r nythod (twneli) ac i’r môr, ac yn sefyll ar y wal wrth ben yr harbwr.
Er eu bod yn llwyddianus are yr ynys, mae’r gwylanod yn ymosod arnyng trwy’r amser. Fel arer mae nhw’n trio dwyn y pysgod mae’r palod wedi hela, ond gyda’r gwylanod cefnddu fwyaf, os oes siawns dwyn a bwyta pâl ifanc (neu hyd yn oed oedolyn) mae hynny’n digwydd hefyd.
Mae rhai yn chwilfrydydd iawn, ac ym mae y crancod, mae’n bosib os dach chi’n eistedd ar y ddaear, daw un neu ddau i chwillota o gwmpas. Roedd un yn eistedd ar fy mhenglin (ond fiw i fi fynd rhy agos - pig brwnt sydd yn medru gwneud llawer o niwed!). Mewn llefydd eraill a gyda phalod eraill, dydyn nhw ddim isio bod mor agos i bobl.
Pan sgwennais hwn yn wreiddiol (Gorffenaf 16) roedd llawer wedi gadael yr ynys, oherwydd bod y rhai ifanc wedi aeddfedu. Yn hwyrach yn y dydd, pan oeddwn yn trio tynnu lluniau o’r palod yn hedfan, cefais y llun yma: rhan o natur ond trist i’r palod. Dyma’r gwylan gefnddu fwyaf gyda palod ifanc mae o wedi llwyddo i ddwyn.
Mwy am fywyd gwyllt Sgogwm i ddod...
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home