Mae’r tywydd sych sych a chrasboeth yn parhau, er nad yw’r tymheredd am fod cweit mor uchel heddiw. Un peth dwi wedi mwynhau gymaint dros y dyddiau diwethaf ydy darllen Capten; nofel Meinir Pierce Jones a enillodd gwobr Daniel Owen eleni. Be well i ddarllen dros frecwast!
Ac am nofel! Hwn ydy’r llyfr gorau dwi wedi darllen am dipyn. Mae o’n eitha hir - felly mae’r pleser yn parhau, ond dim rhy hir; ac eto mae hi’n nofel gynnil. Cawn hanes o fywyd ym Mhen Llŷn ar ddiwedd yr un ar ddeunawfed ganrif trwy lygaid Elin Jones, gwraig y “Capten”. Mae’r cymeriadau yn hollol fyw a chredadwy, a mae’r stori yn gryf hefyd. Cawn ddarllen am fywyd bob dydd Elen, tra mai ei ŵr, John i ffwrdd yn hwylio, ac wrth gwrs, mae’r siwrna yn un hir. Yn ol ym Mhen Llŷn, mae Elen yn disgrifio bywyd bob dydd; sut mae ei nai yn dod i fyw gyda hi i roi hoe bach i’w mam - a codi ysbryd Elen sydd heb blant. Cawn hefyd clwyed am Lydia ac Adi sydd yn byw bron ar gyrion y gymdeithas a rhy dlawd i talu’r rhent a be sydd yn digwydd iddynt - a sut mae Adi am fynd i forio. Mewn rhai ffyrdd, mae’r llun o fywyd lleol yn debyg yn ein atgoffa ni o lyfrau Kate Roberts, er bod y cynfas llawer mwy eang. Felly dan ni hefyd yn dysgu am y byd hwylio, trwy lygaid Capten John.
Mae themau mawr yma hefyd, yn cynnwys fyddlondeb, cariad a iechyd meddwl. A mae’r nofel yn anodd i’w roi hi i lawr. Mae’r ymchwil yn drwyadl - a’r holl hanes wedi ei seilio (yn eitha agos, o be dwi’n dallt) ar stori go iawn a’r holl peth mewn Cymraeg godidog a hefyd tafodiaith Pen Llŷn. A cawn clwyed am lefydd gyrafwydd fel Tŷ Coch (os dach chi’n nabod Pen Llŷn) ond mewn cyfnod a chydestun tra gwahanol. Arafais wrth fynd tuag at y diwedd a mae’n eitha bosib byddaf yn ailddarllen y nofel yn syth bin.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home