Bywyd gwyllt yr ardd: llyffantod a draenogod
Mae gymaint o lyffantod yn yr ardd ar y funud. Mae llawer yn cael eu gweld wrth i fi chwynnu neu dyfrio, ond mae nifer mawr yn y pwll hefyd. Dwi wedi bod yn trio cadw’r pwll yn iach. Gyda’r tywydd poeth, roedd algâu i’w gweld - ac am ryw reswm roedd ein cymdogion a oedd yn dyfrio’r ardd tra roedden ar ein gwyiau yn ol ym mis Mehefin wedi penderfynu bod ormod o blanhigion yn y pwll a wedi tynnu rywfaint allan! (Mae hi’n gymydog ardderchog ac yn ffrind, felly dim byd i’w gwneud ond trio achub y sefyllfa). Falle fyse’r pwll wedi dioddef beth bynnag.
Maent i fod i fwyta gwlithod, a falle eu bod nhw, ond yn yr ardd yma, gyda waliau o gwmpas mae na gymaint o falwod, sydd yn bwyta bron popeth. (A dwi ddim yn meddel bod llyffantod yn bwyta malwod!) Mi faswn wrth fy modd yn gweld bronfraith yn yr ardd eto ond dydyn nhw ddim yma y dyddiau yma - y gwir ydy eu bod wedi dod yn brin.
Labels: byways gwyllt, glwithod; malwod, llyffantod, yr ardd
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home