Ailddysgu

Wednesday 1 June 2022

Gwanwyn yn troi i'r Haf

 O’r diwedd dan ni’n cael glaw go iawn, ar ol ddwy fis sydd wedi bod yn sych iawn, ar y cyfan. 


Gyda dyfrio, mae’r ardd wedi ffynnu, a dwi’n falch iawn gweld, ar ol rhoi ffa dringo i fewn, nad ydy’r malwod wedi eu ddifetha’n llwyr.  Dwi wedi rhoi pelenni o gwmpas y blanhigion, sydd wedi eu gwneud o wlan a mae’r rheina i’w weld yn helpu.

 

Ar y funud mae’r iris yn gorffen yn yr ardd, a dydy hi ddim yn marw’n hardd, fel petai. Ond mae’r geraniums yn dod a’r rhosyn mawr, Rambling Rector a llawer o blanhigion eraill ar fin flodeuo.

 

Mae’r comin yn newid hefyd.  Mae’r blodau ymenyn sydd wedi bod yn gnweud i’r comin edrych fel ryw faes melyn, yn dechrau gwywo, ond mae’r gweiriau gwahanol yn edrych yn hyfryd.  A hefyd, mae’r cudyll coch yn dal ati!  Ro’n yn meddwl bod y nyth yn wag ar ol methu gweld un o’r adar yna am eisoes.  Ond bore Sul, gwelais un o’r oedolion yn bwydo’r cywion (ond y cynffon a’r adar ro’n yn gweld, wrth i’r aderyn blygu i fewn i’r twll nythu).  Da ydy natur ynte?  Mae tri aderyn yglyfaethus yn nythu neu wedio nythu ar y comin - os dach chi’n cyfri’r cigfran.  Mae hwnnw wei nythu a’r cywion wedi tyfu yn eitha mawr.  Y trydydd ydy’r barcud.  Mwy am hwnna nes ymlaen.




0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home