Ailddysgu

Wednesday 23 November 2022

Gwyliau bach

Cawsom benwythnos bendigedig yn aros dim rhy bell o Witney yn Sir Rydychen.  Arhoson mewn hen ysgubor a oedd wedi ei drawsnewid yn llwyr, ar hen fferm o’r enw “High Cogges”, dim rhy bell o Witney yn Swydd Rydychen.  Mae’r lle yn eitha anghysbell, ond eto yn eitha agos i Witney, hen dre farchnad. Fel arfer dan ni’n mynd am wyliau bach yn yr Hydref ond doedden ni ddim wedi gwneud cynlluniau - felly peth munud ola roedd hwn.


Dan ni wedi cael tywydd digon glwyb yn ddiweddar ond trwy lwc yr oedd y tywydd yn dda.  A be dwi isio ar gwyliau bach? Lle dymunol i aros, natur a bywyd gwyllt o gwmpas (os nad ydwyg mewn dinas), bwyd da, mynd am dro a darllen.  Ro’n wedi gwneud lasagne llysieuol cyn gadael a roedd pei pysgod a canelloni ar gael hefyd; llyfrau i’w ddarllen, coedwig bach ger y tŷ, a llefydd i gerdded o’r drws.  Da, felly.

 

Ar y dydd Sadwrn cerddon i Witney ar hyd lonydd bach o’r fferm ac i Cogges Manor Farm am dipyn o ginio ac i gerdded o gwmpas: yn enwedig i ymweld a'r ardd gegin gwych.  




Yn pendant, gwych.  Basen yn medru byw mewn gardd fel hon! Wedyn cerdded i Witney, hoe bach mewn tafarn, prynu papur newydd a cerdded adref.  Roedd dynd Sul digon sych i fynd am gylchdaith, gyda cinio Sul mewn tafarn (Mason Arms, South Leigh) cyn cerdded yn ol cyn iddi hi nosi.  Dyna'r problem gyda'r anser yma o'r flwyddyn - dyddiau byr.  Ac ar fore Llyn, gyre yn ol yn hamddenol yn y glaw trwm.  Ac yn ol i'r rhestr o "bethau i'w gwneud"!



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home