Atgofion o'rcaf ar y Gogarth
O’r diwedd, mae pawb wedi mynd, ar ol tri diwrnod brysur: Troy’r mab gyda’i gariad yma ar noswyl Nadolig a hefyd y ddau fab arall; Tadsy (yr ifanca) yn aros gyda ni am y cyfnod a Tebor, Tasha a’r ddau blentyn yma ddoe. Braf cael y teulu o gwmpas, ond gwaith galed a’r ran fwyaf yn disgyn ar fy ngŵr oherwydd dwi wedi brifo tendon yn fy arddwrn ac yn gorfod rhoi’r gorau i ddefnyddio fo, felly teipio yn araf gyda’r llaw chwith.
Dwi wedi cael blas yr haf yn ol wrth gwylio Cefn Gwlad y Gogarth. Aethon ni ar wyliau dwy flynedd yn ol ac aros mewn bwthyn hanner ffordd i fyny’r Gogarth. Mae o wir yn le brydferth, er ein bod ni wedi cael tywydd cymysg iawn. Roedd hi rhy gynnar yn y flwyddyn i weld yr iar bach yr haf arbennig “silver studded blue” ond ’roedd y blodau yn arbennig. Dwi erioed wedi gweld gymaint o flodau gwyllt.
Dyma rhai o’r lluniau:
Roedd teim gwyllt ym mhobman. Mae'r rhaglen yn esbonio sut mae ffermio traddodiadol ym gadael i'r blodau ffynu. A dyma lluniau o'r golygfeydd
gwych.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home