Ailddysgu

Tuesday 20 December 2022

Eira, harddwch a moron

O’r diwedd dw wedi postio i’r blog.  Dan ni wedi cael tywydd rhewllyd iawn ac eira yn ddiweddar, ond erbyn ddoe roedd hi’n bwrw glaw a’r eira a’r rhew wedi diflannu.  A ia, mi roedd y pafin yn llithrig, ond mae hi wedi bod mor brydferth.  Anaml iawn dan ni’n cael eira sydd yn aros ar y tir am gyn hired.  Ond gyda’r tymherau isel, isel, cawsom wythnos o eira, ac unwaith daeth yr haul allan, roedd pob man yn sgleinio.


A dyma lluniau o gae bach a’r coed a’r afon sydd ddim yn bell i ffwrdd – a’r haul yn disgleirio.  




Prynhawn Gwener es am ddro ar hyd yr afon sydd yn rhedeg ar gwaelod y comin.  Ac o, roedd yn hardd.  Roedd par o farcutiaid yn hedfan o gwmpas yn cael eu herlid gan y brain.  Maent yn paru am oes felly byddaf yn cadw llygad barcud (ww!) i weld os bydd par yn nythu yn yr un lle a llynedd.  Efallai o’r diwedd byddaf yn cael llun da ohonyn nhw.  (Dwi'n eitha hoff o'r llun yma a chymerais rwy flynyddoedd yn ol- ond dim barcutiad lleol ydy hon)






Erbyn dechrau’r wythnos, a’r rhew a’r eira wedi mynd, roedd hi’n llawer haws cerdded o gwmpas y dref, ac ar ol cryn dipyn o law, mae’r haul allan eto.  Mi es ati heddiw i weld sut mae’r moron yn yr ardd wedi gwneud yn yr holl oerni.  A dwi’n falch o ddweud eu bod yn ardderchog er mae’r rhai yn y llun wedi eu cuddio gyda mwd.  Y rhain ydy’r moron a chafodd eu blannu yn yr haf – a dwi’n meddwl eu bod wedi mwynhau’r tywydd poeth poeth.  Beth bynnag bydd digonedd ar gyfer cinio Nadolig. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home