Ailddysgu

Thursday 8 February 2024

 Mae hi wedi bod yn glawio’n drwm heddiw, felly dwi wedi bod yn gwneud pethau yn y tŷ - ac yn y tŷ gwydr.  Ar ol mynd am dro ond am ryw hanner awr ar y comin, 


dechreuais gweithio yn y tŷ gwydr- ond am ryw dri chwarter awr.  Dros cyfnod dwi wedi bod yn tacluso yn y tŷ gwydr, yn paratoi am pan mae o’n amser i hau.  Ond mae hi braidd yn gynnar eto.  Er hynny dechreuais letys ym mis Ionawr mewn dipyn o wres.  A mae’r planhigion bach yn gwneud yn dda.  Dyma nhw.



Hefyd dwi wedi hau persli - sydd yn cymryd amser hir i ddod i fyny, felly pwyll bia hi, a sbigoglys, (gwelir y llun) sydd wedi ymddangos yn barod (ar ol ond ryw 3 diwrnod).  Heddiw rhois hadau 
aubergine a pupur coch hir i fewn.  Y cyngor ydy i ddechrau nhw’n gynnar oherwydd mae o’n cymryd amser hir iddyn nhw aeddfedu.


Gan fy mod yn dilyn dull dim palu, byddaf yn rhoi compost newydd dros y pridd yn y tŷ gwydr ar ol rhoi dipyn o’r hen bridd yn y bin compost.  Prynhawn yma, a'r glaw wedi cilio i fod yn law mân, roedd un ehedydd yn canu'n wych pan es i allan eto.  Mi wyt ti'n lawn,Wilias, mae o yn sicr yn codi calon.  (Mi faswn wedi ymateb i dy sylw ond yn anffodus, rywsut, y dyddiau yma fedra i ddim ddarganfod ffordd o wneud hynny!)

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home