Glaw
Am law. Fel arfer dwi’n mynd â Teo am dro, y peth gyntaf yn y bore, ond heddiw mae hi’n stidio bwrw. Mae’r gwanwyn wedi bod mor wlyb ac mae hi wedi bod yn oer yn ddiweddar hefyd.
Er hynny, mae’r ardd wedi bod yn edrych yn dda gyda’r honesty a’r tiwlips piws, a hyd yn oed yr iris yn dechrau blodeuo.
Ddoe, sylwais fod gymaint o flodau ar y goeden celyn sydd yn y gornel. Arwydd o lawer o aeron coch efallai?
Llwyddais i dorri un lawnt dydd Gwener, wrth wybod byddai glaw yn dod, ond mae dwy arall i dorri ac wedyn, yn debyg, byddant yn cael eu gadael, ym mis Mai fel rhan o’r cynllyn “Mai di-dor”. A gobeithio bydd y glaw yn cilio am dipyn!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home