Ailddysgu

Friday 5 April 2024

garddio a'r Gwanwyn

Dwi wedi bod yn gweithio yn yr ardd yn ddiweddar:  h.y. yn ystod yr adegau pan nad ydy hi’n bwrw, oherwydd bod y tywydd glawog yn parhau: ac mae hi wedi bod yn wyntog hefyd weithiau.  Ond dan ni’n ffodus yn famau.  Mae’r pridd yn eithaf ysgafn a dydy hi ddim yn dal dŵr.  Dwi wedi gwagio’r biniau compost ac wedi cael compost da i fynd ar y pridd fel haen. Mae hyn yn rhan o arddio heb balu.


Tyfais rhai pethau yn y tŷ gwydr i ddechrau.  A rŵan mae ‘r sbigoglys a’r persli yn y pridd, a’r tomatos a’r aubergines a’r pupurau yn dod ymlaen yn y tŷ gwydr ond rhaid amddiffyn yr aubergines o falwod.  A gwelais gyda boddhad bod penbyliaid yn ffynnu yn y pwll ar ôl llawer o’r grifft marw. 

 



Ac mor braf ydy gweld y bylbiau yn dod allan – dim ots be mae’r tywydd yn gwneud.  Prynais tiwlips a oedd yn newydd i fi, ac maen nhw’n blodeuo yn gynnar eleni. 





I ddweud y gwir, mae’r gwanwyn yn gynnar eleni.  Er bod y tywydd ddim wedi bod yn wych, dan ni ddim wedi cael llawer o rewogydd chwaith, ac mae hyd yn oed clychau’r gog yn dechrau blodeuo yn y parc yn y ddinas.




0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home