Y titw tomos las yn nythu
Mae’r tywydd ansefydlog yn parhau. Weithiau, haul a tywydd cynnes, a wedyn, mewn chwinciad, cawod eitha trwm. Dwi wedi bod yn cadw lygad ar goeden fedwen lle fu titw tomos las yn nythu llynedd. Welais mo’r nyth tan mis Mai - a dyma llun o’r aderyn yn gwneud ryw waith cartref, yn clirio’r nyth allan.
Cefais yr ateb yn gynharach yn y mis pan welais aderyn yn mynd i fewn ac allan o’r twll. Ond dydy o ddim yn llun da, yn anffodus.
A bore ’ma gyda’r tywydd mor oer (ar ol dydd cynnes ddoe) doedd dim arwydd o’r adar o gwbl. Falle eu bod yn swatio'n gynnes yn y goeden. Gobeithio byddan nhw yn llwyddo.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home