Ailddysgu

Saturday 17 February 2024

Glaw, cynffonau sidan a llyffantod


Darllenais y post diwethaf a gweld ei bod yn glawio pryd hynny, a mae hi'n glawio yn ddifrifol eto bore 'ma ar ol glaw trwm yn ystod y nos.  Does na ddim llawer o ddyddiau haelog wedi bod.  Serch hynny daeth y cynffonau sidan i MK o’r diwedd a roedd mor bleserus cael eu gweld nhw.  Haid digon mawr ond yn bwydo wrth ymyl cylchfan brysur iawn ac wrth i’r loriau fynd heibio roedd yr adar yn hedfan i ffwrdd - am dipyn, beth bynnag.  Doeddwn ddim yn medru mynd i’w gweld pa oedd yr haul allan a’r golau yn dda.  Er hynny, ro’n yn eitha hapus gyda’r lluniau.  Dyma dau dwi'n hoffi.






Ac er mai ond mis Chwefror mae hi, a'r tywydd yn wlyb, mae Gwanwyn yn brysur yn nesau.  Mae' o fel petai bod y pwll wedi bod yn symud gyda'r llyffantod yn neidio o gwmpas ac yn dechrau paru.  Ond y cam gyntaf ydy hwn pryd mae’r llyffantod bach yn paru.  Mae grifft wedi dangos yn barod, ond dwi’n disgwyl mwy o gyffro a mwy o rifft yn y cam nesa pan fydd y llyffantod mwy yn paru hefyd, a gobeithio’n wir na ddaw tywydd rhewllyd, oherwydd mae’r paru yn gynnar iawn eleni.  Yn anhebyg i adar, os daw tywydd rhewllyd ar ol i’r grifft dod, does na ddim modd i’r llyffantod dodwy mwy.  Felly byddan yn cadw llygad barcud ar y grifft ac os daw rhew - bydd y grifft yn mynd i fewn i’r tŷ gwydr mewn bwced.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home