Mwy am lyffantod
Wel, eleni daeth y grifft yn fis gynharach na’r llynedd eleni. A wythnos yn ol, roedd y pwll yn berwi o lyffantod yn paru ac yn neidio o gwmpas. Dyma rhai ohonyn nhw
er na lwyddais i gael lun fel yr un cefais ryw flynyddoedd yn ol.
Ond roeddwn i'n gobeithio na fydden ni'n cael rhew caled wedyn. Ond na. Pan ddeffroais ddoe, roedd y car dan haenen go drwchus o rew. A’r comin yn rhewllyd iawn hefyd ond yn hardd yn yr haul.
Erbyn hanner dydd roedd y rhew wedi toddi, ond dwi ddim yn sicr os ydy’r grifft wedi goroesi’n iach. Yn ol google, os ydy’r grifft ond hanner yn y dŵr mae’r rhew yn gallu lladd yr ŵyau sydd hanner allan. Felly symudais rhai o’r grifft i’r tŷ gwydr rhag ofn i’r rhew ddychwelyd. Gobeithiaf byddan nhw yn iawn - a beth bynnag roedd digon o rifft yn y pwll: stategaeth i sicrhau bod o leia rhai yn goroesi i ddod yn llyffantod.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home