Y cloddio: y canlyniadau
Wel mae’r cloddio wedi dod i ben ar y comin a chawsom cyfle i ddargangu’r canlyniadau dydd Sadwrn yn ystod y diwrnod agored. Yn fyr, roedd Rhufeiniaid yn byw ar y comin - ond efallai dros dro oedd y trefniad. Beth bynnag, darganfyddwyd grocenwaith Rufeinig nad oedd wedi cael ei wneud yn y wlad hon - felly wedi cael ei brynu. Mae rhai o’r darnau mewn bocs coch yn y llun.
Roedd un ddarn o grocenwaith efalle o’r oes haearn - ond doedden nhw ddim yn siwr. Ac yn bellach i lawr y comin, wrth ymyl y llwybr, darnau o bethau o’r rhyfel cartref. Doedd hynny ddim yn syndod oherwydd roedd garsiwn ar y comin ar y pryd.
Beth bynnag dwi’n siwr bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn bo hir.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home