Ailddysgu

Wednesday 22 May 2024

Be Nesa?

Nos Lun oedd y wers olaf o’r cwrs Gloywi: i fi beth bynnag, oherwydd byddaf ar fy ngwyliau pan ddaw’r wers olaf un.  Ers 2020 a’r cyfnod clo, a roddodd y cyfle i fi i wneud cwrs ar-lein dwi wedi cymryd 4 cwrs Cymraeg.  Dal Ati, dwywaith a Gloywi , mewn ymgais olaf i drio gwella fy ngramadeg!  Ac wedi gwneud Gloywi dwywaith hefyd!  Dwi’n cael y treigladau yn anodd o hyd, sydd yn rhyfedd ac yn rhwystredig, ond dyna fo. A gan fod y cyfle yna ( gan fy mod yn gwneud y cwrs Gloywi) cymerais yr arholiadau ar gyfer y Dystysgrif Sgiliau Iaith,  i herio fy hun dipyn.  Dwi’n sicr fy mod wedi dysgu rhai pethau trwy’r proses – ond dim yn siŵr faint, eto.

Felly bydd rhaid darganfod ffyrdd eraill, ar wahân i gwrs bob wythnos, o gadw at y Gymraeg a dim gadael iddi hi ddirywio.  Cyrsiau undydd Llundain, pan fedrai; cwrs arall gwahanol ar-lein? Mynychu Gŵyl arall, y clwb darllen, wrth gwrs a falle trio mynd ar gwrs yn Nhŷ Newydd. Braidd yn bell ond dwi’n meddwl base’n wych. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home