Tystysgrif Iaith
Tybiaf fod y rhai ohonoch chi sy’n sgwennu go iawn yn sgwennu pytiau sydd yn cael eu gadael i un ochr. Falle. Yn bendant mae hyn yn digwydd gyda fy mlog. Dwi’n dechrau post a dim yn ei orffen, am ba bynnag reswm. Dyma un yr oedd am sgwennu ym mis Ebrill:
Her
Ar y funud dwi’n gweithio’n galed i wella fy Nghymraeg. Am ryw reswm penderfynais gofrestru ar gyfer y Dystysgrif Sgiliau Iaith. I ddweud y gwir dwi YN gwybod pam. Roedd cyfle gen i, oherwydd fy mod yn cymryd y cwrs Gloywi, a meddyliais fydd her yn dda i fi.
Felly, dwi wedi cwblhau y prawf llafar ar lein. Y dasg honno oedd gwneud cyflwyniad. Teitl fy nghyflwyniad oedd “Byw Drwy Gyfrwng y Gymraeg yn Lloegr”. Cefais hwyl yn ei pharatoi, a dwi’n meddwl ei fod wedi mynd yn iawn.
Mater arall ydy’r gwaith ysgrifennedig. Fel wyddoch chi, dwi’n gnweud llawer o gangymeriadau yn fy Nghymraeg.
Dwi wedi gorffen y proses erbyn hyn. Yn dilyn y cyflwyniad oedd arholiad ysgrifennedig yng Nghaerdydd, ac wythnos diwethaf, es i aros gyda fy ffrind Gareth am noson yn sir Morgannwg, a mynd i Gaerdydd i sefyll yr arholiad. A dyna fo, wedi ei wneud. Doedd o ddim i’w weld yn rhy ddrwg, ond fel bob tro, dwi’n ysu i fod yn fwy huawdl yn y Gymraeg, ond efalle mai gobaith caneri ydy cyfathrebu yn dy ail iaith yr un fath ac yn dy famiaith.
Tra yn yr ardal cefais ymweld â San Ffagan ag eglwys San Illtud. Gwych!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home