Ailddysgu

Monday 10 June 2024

Yn ol o'r Alban

 Gan fy mod am gyrraedd oed arbenning eleni - ia, rhif gydag 0, penderfynnais mynd am wyliau arbennig, i weld bywyd gwyllt yn y Cairngorms.  Ro’n wedi gweld hysbysebion am gwesty’r Grant Arms sydd yn arbenigo mewn gwyliau bywyd gwyllt.  Mae clwb adar a bywyd gwyllt yn gweithio allan o’r gwesty a sawl un sydd yn tywys tripiau bywyd gwyllt.  Roedd fy ffrind Jenny sydd yn byw rwan yn Vancouver yng Nghanada ac yn monitoro adar yn fodlon dod hefyd, a felly dyna be wnaethon ni.

 

Trefnais cael tywyswr lleol am ddau ddiwrnod i helpu ni ddarganfod beth oedd o gwmpas.  Dwi erioed wedi bod yn y Cairngorms o’r blaen, ac yn gobeithio gweld, efallai, a gylfingroes (crossbill) a falle sgwarnog mynydd, eryrod, gwalch pysgod, dyfrgwn a falle bele coed.  Optimistaidd!

 

Hen westy ydy’r Grant Arms - llawer mwy nac o’n wedi dychmygu, a mae o reit yn y dre, a sefydlwyd fel dre newydd yn 1765.  Mewn 10 munud fedrwch chi gerdded i’r goedwig mawr wrth yml y dref ac i’r afon Spey.  Aeth John ein tywyswr a ni i drio gweld eryrod ar ein dydd gyntaf, ond na, gwelson mohonon nhw.  Ond, gwelson ceiliogod grugiar ddu (er ei fod yn 11 yn y bore), sgwarnogod, y gylfinir a hefyd y gornchwiglen – a roedden yn ffodus hefyd i weld gwyach gorniog sydd yn nythwr prin ar lynnoedd yn ngogledd yr Alban.  Wnaeth o ddim aros i fi dynnu ei lun yn anffodus, ond dyma’r gornchwiglen.




 

A mae’r coedwigoedd mor mor wych!  Ond mwy am hynny tro arall.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home